
Helo, Kai dw i a dw i'n ofalwr ifanc i fy mrawd, chwaer a mam. Mae bod yn ofalwr ifanc wedi creu llawer o heriau rydw i wedi gorfod eu goresgyn wrth dyfu i fyny. Dw i wedi cael trafferth cydbwyso fy nyletswyddau gofalu ac addysg drwy gydol yr ysgol uwchradd a dwi’n dal i brofi hynny nawr, gyda'r brifysgol. Fel gofalwr ifanc dw i wedi wynebu llawer o heriau a rhwystrau oherwydd y diffyg ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc nid yn unig yn fy nghymuned ond ledled y wlad. Felly fe benderfynais i wneud rhywbeth yn ei gylch, er mwyn sicrhau bod gofalwyr ifanc eraill yn gallu cael gwell mynediad at gymorth a chyfleoedd, nad oedd ar gael i fi.
Dyna pam, pan gyhoeddodd Cymru Ifanc eu bod am ddechrau bwrdd cynghori gofalwyr ifanc, allwn i ddim helpu ond rhedeg i lenwi’r daflen gofrestru. Am y ddwy flynedd diwethaf dw i wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gyfleoedd a digwyddiadau, ac fe hoffwn i rannu rai o’r uchafbwyntiau gyda chi yn yr erthygl yma.
Y MAG:
Ers mis Mehefin 2024 dw i wedi bod ar Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer gofalwyr di-dâl. Fel yr unig ofalwr ifanc yn y grŵp, roeddwn i’n bryderus iawn ar y dechrau, er fy mod yn oedolyn fy hun roeddwn yn teimlo allan o le, ond wnaeth e ddim cymryd yn hir i’r pryder droi’n gyffro gan fod y mynychwyr eraill wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol yn gyflym iawn. Drwy gydol fy amser ar y MAG dw i wedi codi materion yn ymwneud â chardiau adnabod gofalwyr ifanc a'r meini prawf hygyrchedd ar gyfer y lwfans gofalwyr ifanc. Roedd y MAG yn gyfle gwych ac mae’n parhau i fod, oherwydd drwy gymryd rhan, dwi’n gallu codi’r problemau y mae cymaint o ofalwyr ifanc yn eu hwynebu a dysgu mwy am beth sydd ar gael i gefnogi gofalwyr ifanc/gofalwyr di-dâl.
Gŵyl y Gofalwyr Ifanc
Y llynedd fe wnes i fynd i’r ŵyl gofalwyr ifanc fel rhan o’r Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc, roedd yn ddiwrnod llawn hwyl, nid yn unig yn helpu i redeg Stondin Cymru Ifanc ond hefyd yn cael hwyl! Fe gawson ni gyfle i gwrdd â gofalwyr ifanc eraill yn ogystal â chwarae ar offer chwarae wedi’i lenwi ag aer – roedd hynny’n hwyl oherwydd fe gefais gyfle i wylio un o fy ffrindiau yn cwympo i ffwrdd! Fe gawsom ni gyfle hefyd i gwrdd â llwyth o anifeiliaid yn yr ardal sw anwes. Roedd gŵyl y Gofalwyr Ifanc yn seibiant gwych o’n rolau gofalu, yn ogystal â chyfle i gymdeithasu â ffrindiau a chwrdd â phobl newydd.
Cynulliad Gofalwyr Cymru Gyfan
Yn 2024 a 2025 fues i yng Nghynulliad Gofalwyr Cymru Gyfan, ac fel un o’r unig ddau ofalwr ifanc, roedden ni’n teimlo’n nerfus ar y dechrau, ond bu’n rhaid inni godi materion pwysig megis y cardiau adnabod gofalwyr ifanc (yn y digwyddiad 2024) a sut y dylai lwfans gofalwyr fod ar gael i’r gofalwyr ifanc hynny sydd mewn addysg (a godwyd yn nigwyddiad 2025). Yn y ddau ddigwyddiad, fe gawsom ni gyfle i rannu ein straeon, cymdeithasu â gofalwyr di-dâl eraill a chwrdd â gweinidogion a swyddogion y llywodraeth, gan roi cyfle i ni rannu ein profiadau a’r hyn rydyn ni’n ei deimlo sydd angen ei newid.
Ond ynghyd â’r holl waith ymwybyddiaeth rydyn ni wedi’i wneud hyd yn hyn, mi fydda i hefyd yn dragwyddol ddiolchgar i’r bwrdd am roi dau o fy ffrindiau gorau i mi. Yn aml, dw i wedi’i chael hi’n anodd, oherwydd fy nghyfrifoldebau gofalu, i gael yr amser neu'r egni i wneud ffrindiau ond fe wnaeth y bwrdd hwn fy nghyflwyno i bobl sy’n deall yr anhawster, pobl sy’n gwybod yn iawn sut beth ydi bod yn ofalwr ifanc.
Yn olaf, dw i’n gwybod y gall fod yn anodd fel gofalwr ifanc yn enwedig os na allwch chi ddod o hyd i'r gefnogaeth neu bobl eraill sy'n deall sut brofiad ydi gofalu. Ond dw i'n addo i chi, mae yna gefnogaeth ar gael, fe allwch chi hyd yn oed ddod o hyd i grwpiau fel eich cynghorau ieuenctid lleol neu sefydliadau eraill fel Plant yng Nghymru, a fydd yn eich helpu i sefyll i fyny a siarad am faterion sy'n effeithio arnoch chi.
Diolch am ddarllen a Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc hapus i chi!