Rhwng 19 a 21 Gorffennaf 2024, cynhaliodd Cymru Ifanc ei gwrs preswyl sefydlu yn Llangrannog ar gyfer gwirfoddolwyr newydd eu cofrestru.

Mae Cymru Ifanc yn trefnu penwythnosau preswyl yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, gan roi'r cyfle i wirfoddolwyr ddysgu sgiliau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau, ac ymgyfarwyddo â'r Byrddau Cynghori rydym yn eu cefnogi. Rydym hefyd yn cynnal Cyrsiau Preswyl Sefydlu, fel yr un diweddaraf hwn, ar gyfer gwirfoddolwyr, i'w helpu i ddysgu am raglen Cymru Ifanc, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a'u cyflwyno i dîm Cymru Ifanc a chyd-wirfoddolwyr.

Yn ystod ein cyrsiau preswyl, rydym yn cynnal ymgynghoriadau ar gyfer Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, gan sicrhau bod safbwyntiau a barn ein gwirfoddolwyr ifanc yn cael eu hystyried ar gyfer deddfwriaeth a pholisïau sydd ar ddod gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn trefnu gweithgareddau llawn hwyl fel weiren wib (zip-lining) a gwibgertio (go-karting), gan roi'r cyfle i wirfoddolwyr rhoi cynnig ar bethau newydd a chreu atgofion parhaus gyda'i gilydd.

Roedd rhai o’r sesiynau a’r gweithdai y cymerodd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc ran ynddynt yn ystod y cwrs preswyl sefydlu ym mis Gorffennaf yn cynnwys:

  • Hyfforddiant Achrededig ar CCUHP
  • Ymgynghoriad Gweithio i Wella y GIG
  • Ymgynghoriad Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru
  • Cyflwyniad Senedd Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru
  • Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Flaenoriaethau ar gyfer Diwylliant a Phlastigau Untro gan gynnwys fêps a chadachau gwlyb

Meddai Musa, un o'r gwirfoddolwyr ifanc a fynychodd y digwyddiad:

“Cefais benwythnos gwych ac roedd yn braf cwrdd â phobl newydd. Roedd dysgu am hawliau plant yn arbennig o bwysig i mi, ac rwyf wedi dechrau rhannu'r hyn a ddysgais gyda fy nheulu a'm ffrindiau yn barod.”

Os ydych chi rhwng 11 a 25 oed ac am wirfoddoli gyda Cymru Ifanc, llenwch y ffurflen hon: Ffurflen Cofrestru Gwirfoddolwyr

Gallwch hefyd gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol drwy anfon e-bost atom yn young.wales@childreninwales.org.uk

 

 

YW July Residential 2024
YW Zip Line July 2024
YW July Residential 2024