9-15 May 2022 - Loneliness
Hosted by the Mental Health Foundation
Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni, rydym yn codi ymwybyddiaeth o effaith unigrwydd ar ein hiechyd meddwl a’r camau ymarferol y gallwn eu cymryd i fynd i’r afael ag ef.
Gall ymdrin ag unigrwydd fod yn brofiad anodd. Wedi dweud hynny, mae pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i ymdopi ag unigrwydd ac i atal rhai teimladau negyddol a phroblemau iechyd meddwl a all ddod law yn llaw ag unigrwydd. Dyma rai strategaethau ymdopi a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Cymorth a chyngor ar sut i ymdopi ag unigrwydd a gwella'ch iechyd meddwl
1. Ceisiwch wneud pethau yr ydych chi'n eu mwynhau ac a fydd yn eich cadw chi'n brysur
Un ffordd o geisio rheoli unigrwydd yw cadw'n brysur a gwneud pethau yr ydym yn eu mwynhau. Gallai hynny fod yn rhywbeth sy'n eich diddori, megis ychydig o arddio, mynd i'r gampfa neu roi trefn ar eich cypyrddau yn y gegin, gwneud jig-so, posau neu wau. Gall gweithgareddau bach roi hwb i'ch egni a'ch teimladau cadarnhaol. Mae'n bwysig bod y pethau hyn yn hwyliog neu'n rhoi boddhad i chi. Byddwch yn ofalus rhag i chi weithio'n rhy galed neu wylio sioeau teledu fel modd o ddenu'ch sylw. Bydd y rhain yn oedi neu'n atal eich teimladau a gallai hynny waethygu'ch iechyd meddwl.
2. Ceisiwch wneud pethau sy'n ysgogi'ch meddwl
Mae gweithgareddau sy'n meddiannu'ch meddwl yn gallu bod o gymorth gydag unigrwydd. Gall hyn gynnwys buddion ymgymryd â chyrsiau neu wrando ar bodlediadau ar bynciau yn amrywio o gomedi i ffitrwydd. Gall hyn ysgogi'r meddwl, a gall rhywbeth syml fel gwrando ar lais cyfarwydd rhywun yr ydych chi'n ei hoffi wneud i chi deimlo'n llai unig.
3. Ystyriwch wneud ymarfer corff
Gall ymarfer corff fod o gymorth gydag unigrwydd. Gall fod mor syml â mynd am dro yn y parc pan ydych yn teimlo wedi'ch llethu braidd. Neu, gallech wrando ar gerddoriaeth a dawnsio o gwmpas eich ystafell fyw. (Cofiwch am eich cymdogion!)
4. Beth am ymgysylltu â'r bobl yr ydych yn cwrdd â nhw yn eich bywyd bob dydd?
Mae siarad gydag eraill pan ydych yn teimlo'n unig yn gallu bod yn brofiad anodd. Serch hynny, gall fod o gymorth i chi geisio cysylltu â'r bobl yr ydych yn eu cwrdd yn ystod y dydd. Gall dal sylw rhywun a dweud "helô" wrth i chi gerdded heibio wneud i chi deimlo'n well hyd yn oed. Neu gallech ddweud "helô" wrth y postmon neu fynd i'r siop a siarad gyda'r unigolyn wrth y man talu. Drwy rannu cyfarchiad clên, gallech roi gwên ar wyneb rhywun arall hefyd.
5. Dewch o hyd i bobl sy'n eich 'deall chi'
Mae cysylltu gydag eraill pan ydych yn teimlo'n unig yn gallu bod yn brofiad anodd. Ond mae buddion gwych i ddod o hyd i bobl sydd wedi bod drwy brofiadau tebyg i chi. Gall rhyngweithio gydag eraill sy'n eich 'deall chi' roi'r ymdeimlad hwnnw o berthyn i chi y gallwch fod yn dyheu amdano. Mae pobl sydd wedi bod yn y sefyllfa hon wedi cysylltu â phobl drwy grwpiau lleol neu gyfryngau cymdeithasol.
6. Treulio amser gydag anifeiliaid anwes
Os ydych yn ddigon ffodus i gael anifail anwes, gall fod yn ffordd wych o reoli unigrwydd. Nid yn unig y mae anifeiliaid yn rhoi cariad a chefnogaeth i ni yn ddiamod, ond maent hefyd yn helpu i roi strwythur i'n dyddiau a'n hannog ni i fynd allan a chysylltu ag eraill hyd yn oed. Mae tystiolaeth bod rhyngweithio gydag anifeiliaid anwes yn gymorth i leihau lefelau straen.
7. Ceisiwch ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gadarnhaol.
Gall y cyfryngau cymdeithasol fod o fudd i'ch iechyd meddwl. Ond gall ei effeithio'n negyddol hefyd. Yr hyn sy'n bwysig yw ei ddefnyddio'n gadarnhaol. Gall dod o hyd i gymunedau digidol, sydd â diddordebau tebyg i chi fod o gymorth. Yn bwysicach fyth, byddwch yn ymwybodol o sut ydych chi'n teimlo pan ydych yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol a chanolbwyntiwch ar bynciau a gweithgareddau sy'n gweithio orau i chi.
8. Gall therapïau siarad fod yn ddefnyddiol
Gall trafod eich teimladau gyda chwnselydd neu therapydd eich helpu i ymdopi gyda’ch teimladau o unigrwydd. Mae’n gallu bod yn anodd cael mynediad at therapi siarad - ond os allwch ddod o hyd i weithiwr proffesiynol, mae’n gallu gwneud byd o les. Bydd yn rhoi lle diogel i chi drafod eich teimladau a'ch meddyliau heb gael eich beirniadu. Gwiriwch eich adnoddau lleol drwy fynd i wefan y GIG.