Taclo Bwlio Cysylltiedig â Thlodi
Adnodd arweiniol newydd sy’n rhan o gyfres adnoddau Taclo Effaith Tlodi ar Addysg
Mae miloedd o bobl ifanc yn cael eu gadael yn aros mor hir am gymorth iechyd meddwl neu driniaeth fel eu bod wedi ceisio lladd eu hunain, mae’r elusen iechyd meddwl flaenllaw YoungMinds yn datgelu heddiw.
Cwblhaodd bron i 14,000 o bobl ifanc o dan 25 oed arolwg a ddefnyddiodd yr elusen ar gyfer ymgynghoriad gan y llywodraeth ar strategaeth ddeng mlynedd ar gyfer iechyd meddwl. 1 Mae amheuaeth bellach ynghylch dyfodol yr ymgynghoriad hwn, gan nad yw’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol wedi ymrwymo i’r cynllun eto.
Dywedodd mwy nag un o bob pedwar o bobl ifanc (26 y cant) eu bod wedi ceisio lladd eu hunain o ganlyniad i orfod aros am gymorth iechyd meddwl. Arhosodd mwy na phedwar o bob deg (44 y cant) fwy na mis am gymorth iechyd meddwl ar ôl ei geisio a chafodd bron i un o bob 10 (9 y cant) o bobl ifanc eu troi i ffwrdd.
Dywedodd mwy na hanner y bobl ifanc (58%) fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu wrth aros am gymorth.
Daw’r ffigurau wrth i ddata diweddaraf y GIG ddangos bod 66,389 o bobl ifanc 19 oed ac iau wedi’u hatgyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) ym mis Ebrill, cynnydd o 109% o’i gymharu â’r un mis cyn-bandemig. 2 Mae’r ymchwil hefyd yn datgelu bod:
Heddiw mae YoungMinds yn lansio ei hymgyrch Diwedd yr Aros , gan alw ar y Llywodraeth i ddod â’r argyfwng ym maes iechyd meddwl pobl ifanc i ben.
Adnodd arweiniol newydd sy’n rhan o gyfres adnoddau Taclo Effaith Tlodi ar Addysg