![Female Protesting Female Protesting](/application/files/4716/3638/2173/shutterstock_1727996830.jpg)
Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.
Mae llawer ohonom wedi cael ein cyffwrdd yn fawr ac yn teimlo’n ostyngedig yn wyneb gweithgaredd y mudiad Black Lives Matter/Mae Bywydau Du o Bwys wedi i George Floyd gael ei lofruddio gan yr heddlu yn Minnesota. Mae Plant yng Nghymru yn sefyll yn gadarn a phendant o blaid Black Lives Matter ac yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio yn erbyn hiliaeth yng Nghymru ac ar draws y byd.
Ond mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau. Rydyn ni’n gwybod bod materion hiliaeth a rhagfarn wedi’u gwreiddio’n ddwfn yma yng Nghymru. Mae’r adroddiad diweddar gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn tynnu sylw at yr hiliaeth a’r rhagfarn mae plant a phobl ifanc yn eu profi mewn ysgolion ledled Cymru. Mae hwn yn wirionedd creulon. Mae’n rhaid i bawb ohonon ni wneud mwy.
Fel sefydliad rydyn ni wedi ymrwymo i weithredu, nid yn y tymor byr yn unig, ond i’r tymor hir. Byddwn ni’n myfyrio ac yn cael sgyrsiau gonest ac agored am y camau y gallwn ni eu cymryd fel elusen.
Dyma rai o’r camau cychwynnol y byddwn ni’n eu cymryd:
1. Byddwn ni’n adolygu ac yn diweddaru ein Polisi Cydraddoldeb, gan sicrhau ffocws o’r newydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad ar draws ein holl weithgaredd.
2. Byddwn ni’n sefydlu gweithgor mewnol i gynnal adolygiad o bob agwedd ar ein gwaith, gan gyflwyno argymhellion mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad, gyda dull gweithredu seiliedig ar hawliau.
3. Ac rydyn ni’n ymroddedig i weithio mewn partneriaeth gyda’n haelodau a’r plant a’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw ledled Cymru er mwyn cymryd camau i ymdrin â materion hiliaeth gyda’n gilydd.
Mae’r camau a restrir uchod yn fan cychwyn, yn hytrach nag yn nod ynddyn nhw eu hunain. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal deialog parhaus, a bydden ni’n croesawu’n fawr unrhyw feddyliau, sylwadau, awgrymiadau neu syniadau.
Owen Evans
Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.
Mae tîm o Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd (CSESP) ac Ysgol Reolaeth Caerdydd, dan arweiniad Dr Susan Davis a Chantelle Haughton, Uwch Ddarlithwyr mewn CSESP wedi llwyddo i sicrhau contract ymchwil gan Lywodraeth Cymru i werthuso ‘Recriwtio Lleiafrifoedd Ethnig i ITE a’r proffesiwn Addysgu yng Nghymru
Ynghylch gweithgaredd cyfredol y Senedd yng nghyswllt Cymal 37 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ac adfer teuluoedd yn achos plant digwmni sy’n ceisio ailymuno â’u teuluoedd yn y Deyrnas Unedig.