
Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.
Ym mis Mai 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (SGC) i blant hyd at 12 oed. Roedd hyn yn cynnwys canllawiau cliriach ar ofynion hyfforddiant diogelu yng Nghymru.
Mae Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) Cymru a Plant yng Nghymru wedi cydweithio i ddatblygu pecyn hyfforddiant peilot sy’n cyd-fynd â’r safonau diwygiedig hyn.
Cyflwynir yr hyfforddiant dwyieithog hwn trwy ddull cyfunol o ddysgu ar-lein hunan-gyfeiriedig a dysgu o dan arweiniad tiwtor. Bydd angen i’r dysgwyr gwblhau’r e-ddysgu cyn mynychu’r hyfforddiant o dan arweiniad tiwtor. Cyflwynir tystysgrif wedyn i’r rhai sydd wedi cwblhau’r ddwy ran.
Mae’n hyfforddiant fforddiadwy sydd wedi’i fwriadu ar gyfer y gweithlu gofal plant, sy’n golygu bod modd ei gyrchu ar yr adegau sy’n gweddu orau i’w patrymau gweithio. Bydd y cyrsiau’n galluogi ymarferwyr i gydymffurfio ag elfen ddiogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir erbyn y terfyn amser ym mis Tachwedd.
Wrth fyfyrio ar gwrs Plant yng Nghymru Diogelu Plant Datblygedig ar gyfer Ymarferwyr Gofal Plant Grŵp C, dywedodd un a fynychodd y cwrs:
“Dyma’r hyfforddiant Diogelu gorau i mi ei gael (dros cyfnod o 30 mlynedd). Roedd yn fyr ond wedi’i gyflwyno mewn ffordd ddiddorol dros ben.”
Cyflwynir y cynllun peilot cyffrous hwn mewn partneriaeth flaengar newydd rhwng PACEY a Plant yng Nghymru, gan gyfuno ein meysydd arbenigedd. Ond pam y dylech ein dewis ni?
Mae ein hyfforddiant:
Ar gael am y prisiau canlynol am gyfnod cyfyngedig yn unig:
I archebu lle a chwblhau’r hyfforddiant, mae’r broses archebu i’w gweld yma: Safeguarding training / Hyfforddiant diogelu | PACEY
I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion hyfforddiant diogelu a phwy all ddod i’r cyrsiau a ddarperir, cliciwch ar y ddolen yma: Safeguarding training / Hyfforddiant diogelu | PACEY
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â PACEY yn y cyfeiriad paceycymru@pacey.org.uk neu ffoniwch 02920 351407. Gallwch hefyd anfon neges e-bost at Plant yng Nghymru i’r cyfeiriad training@childreninwales.org.uk
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.