Lansio Cystadleuaeth Ffotograffau Cyswllt Rhieni Cymru

Munud Arbennig

Eleni, bydd Wythnos Magu Plant yn cael ei chynnal rhwng Dydd Llun, 21 Hydref a Dydd Gwener, 25 Hydref 2024. Y thema eleni yw 'Munud Arbennig', sy'n cydnabod y ffaith bod pob teulu'n wahanol.

I ddathlu'r wythnos hon, mae Cyswllt Rhieni Cymru yn lansio cystadleuaeth ffotograffau newydd i bob rhiant ledled Cymru

Y cyfan mae angen i chi wneud yw tynnu ffotograff sy'n dangos, 'Munud Arbennig' a byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl wobr i ennill taleb Amazon gwerth £50.
 
Gofynnir i chi roi pennawd byr neu deitl i’r ffotograff.   

Anfonwch eich ffotograffau i parentsconnect@childreninwales.org.uk.  

Caniateir cynigion gan unrhyw riant/ofalwr plentyn o dan 18 oed sy’n byw yng Nghymru.   

Dyddiad cau:- Dydd Gwener, Hydref 4ydd

 

PCW Image Competition Square WELSH NEW (2).png