Lansio Cystadleuaeth Ffotograffau Cyswllt Rhieni C…
Munud Arbennig
Mae llawer o aelwydydd ledled Cymru yn wynebu cryn bwysau costau byw. Mae ein canllaw etholaethol yn nodi pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, y cymorth a ddarperir gan gyflenwyr ynni, a chyfeirir at ffynonellau cyngor.
Cymorth gan Lywodraeth Cymru
Mae’r Cynllun Cymorth Costau Byw yn darparu taliad o £150 i aelwydydd cymwys. Mae ar gael i bob aelwyd sy’n cael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ac aelwydydd sy’n meddiannu eiddo ym mandiau treth gyngor A-D sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra i gael cymorth. Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, a bydd yn rhedeg tan 30 Medi 2022.
Y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
Bydd ail rownd y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf ar gael yn hydref 2022. Mae hyn yn darparu grant o £200 i aelwydydd cymwys. Roedd y cynllun blaenorol yn agored i aelwydydd lle roedd un aelod yn derbyn budd-daliadau penodol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd yn ehangu’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y rownd nesaf.
Cymorth i liniaru’r pwysau costau byw
Bydd Llywodraeth y DU yn darparu gostyngiad o £200 drwy’r Cynllun Cymorth â Biliau Ynni ar gyfer pob cartref sydd â chysylltiad trydan domestig o fis Hydref 2022. Bydd y £200 yn cael ei dalu’n ôl yn awtomatig dros gyfnod o bum mlynedd. Ni fydd angen i gartrefi wneud cais am y cynllun, ac yn y rhan fwyaf o achosion mae Llywodraeth y DU yn disgwyl y bydd cyflenwyr trydan yn cymhwyso’r gostyngiad yn awtomatig i filiau trydan o fis Hydref 2022. Mae’n bosibl y bydd peth amrywiad yn y modd y darperir y gostyngiad o £200, er enghraifft ar gyfer y rheini sydd â mesurydd a ragdelir.
Munud Arbennig
June is LGBTQ+ Pride month, and to celebrate we have planned a number of activities. on 28 June our training team will be holding a course entitled Pride and Prejudice: supporting LGBTQ+ Young People.