
Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn cyhoeddi adroddiad…
This year marked the start of the journey towards the next examination of the governmentäó»s progress in implementing the United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC).
Eleni daeth y Prosiect Pris Tlodi Disgyblion, a gafodd ei ailenwi’n ddiweddarach yn Rhaglen Taclo Effaith Tlodi ar Addysg, i ben yn swyddogol.
Cychwynnodd y prosiect yn 2019, a chafodd ei gefnogi a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u hymrwymiad i fynd i’r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant a gwella iechyd meddwl a llesiant emosiynol holl blant Cymru.
Y nod oedd creu adnoddau i’r holl ysgolion a gynhelir a lleoliadau addysg ar draws Cymru, er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o brofiadau bywyd dysgwyr o aelwydydd incwm isel, gan ddangos effaith tlodi ar fywydau beunyddiol plant.
Bydden nhw hefyd yn darparu atebion gweladwy, cost-effeithiol fyddai’n helpu i ddileu rhwystrau dysgu sy’n gysylltiedig â thlodi a gwella llesiant dysgwyr.
Er bod y rhaglen wedi dod i ben yn 2024, mae’r Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion wedi cael eu diweddaru’n llwyr i adlewyrchu’r hinsawdd tlodi plant yng Nghymru ar hyn o bryd a rhoi cyngor ar hynny.
Mae’r adnoddau di-dâl hyn yn cynnig camau ac atebion ymarferol ar gyfer dull gweithredu ysgol gyfan fydd yn helpu i ddileu rhwystrau a ‘chost’ dysgu yn eich ysgol neu eich lleoliad trwy eich cefnogi i ystyried newid a’i roi ar waith.
Mae’r canllawiau ar-lein yn dal ar gael, bellach gydag adnoddau ychwanegol sy’n cynnwys:
Gallwch weld y canllawiau Pris Tlodi Disgyblion hefyd trwy ddefnyddio Hwb Llywodraeth Cymru, yma: Repository - Hwb
This year marked the start of the journey towards the next examination of the governmentäó»s progress in implementing the United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC).