Maniffesto Grŵp Gweithredu’r Blynyddoedd Cynnar 20…
Mae grŵp arweiniol o elusennau plant yng Nghymru yn galw ar bob plaid wleidyddol i roi anghenion babanod a’r plant ieuengaf yng nghanol eu polisïau am y Senedd nesaf.
Mai'r 18fed yw Diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cymru. Bob blwyddyn ers 1922, mae pobl ifanc Cymru yn anfon neges o heddwch i bobl ifanc dros y byd. Dyma'r unig neges o'i math yn y byd! Mae neges 2022 yn ffocysu ar yr Argyfwng Hinsawdd.
Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da canmlwyddiant yr Urdd yn ffocysu ar yr argyfwng hinsawdd. Mae’n alwad i weithredu gan blant a phobl ifanc Cymru i bobl ifanc y byd, i ddefnyddio pwysigrwydd a phŵer eu llais i erfyn ar lywodraethau a chorfforaethau mawr i weithredu ar frys er mwyn achub ein planed. Mae’n amser deffro!
Ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd, lansiwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2022 yng Nghanolfan Heddwch Nobel yn Oslo, Norwy, mewn digwyddiad arbennig yng nghwmni Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Yno hefyd i gyflwyno’r neges oedd y criw o bobl ifanc a oedd yn gyfrifol am ei llunio eleni, sef myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, yn dilyn partneriaeth rhwng yr Urdd a’r brifysgol.
Er mwyn dyfnhau pwysigrwydd rhyngwladol y neges, ffurfiwyd partneriaeth ffurfiol rhwng myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a chriw o fyfyrwyr o’r University of Life Sciences yn Norwy. Cynhaliwyd gweithdy rhithiol i alluogi myfyrwyr o’r ddwy brifysgol i drafod y pwnc a rhannu syniadau a diwylliannau gwahanol.
Mae ein neges argyfwng hinsawdd yn alwad i weithredu i'r byd, i ddefnyddio arwyddocâd a phŵer ein lleisiau i annog llywodraethau a chorfforaethau mawr i gymryd camau brys i atal newid pellach yn yr hinsawdd. Crëwyd ein neges heddwch canmlwyddiant mewn cydweithrediad â myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Gallwch ddarllen y neges yma.
Mae grŵp arweiniol o elusennau plant yng Nghymru yn galw ar bob plaid wleidyddol i roi anghenion babanod a’r plant ieuengaf yng nghanol eu polisïau am y Senedd nesaf.