Website Thumbnail (3).png

Mynychodd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru Dŷ’r Cyffredin ar gyfer Sesiwn Blynyddol Senedd Ieuenctid y DU ar 28 Chwefror 2025, ochr yn ochr ag Aelodau Senedd Ieuenctid o Loegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.

Gyda dros 450 yn bresennol, cafodd y ddadl ei chadeirio gan Mr Llefarydd a Madam Ddirprwy Lefarydd, yn cynnwys areithiau gwadd gan ASau.

Dyma Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru:

  • Cian (Caerffili)
  • Rhianna (Blaenau Gwent)
  • Khandi a Lowri (Rhondda Cynon Taf)
  • Macey (Bro Morgannwg)
  • Evie (Sir Gaerfyrddin)
  • Aoife a Ffion (Caerdydd)
  • Daniel (Wrecsam)

Wedi'u hethol i gynrychioli eu hawdurdodau lleol, mae'r sesiwn hwn yn nodi diwedd eu blwyddyn gyntaf fel Aelodau Senedd Ieuenctid. Maen nhw wedi bod yn rhagorol, gan ddangos ymroddiad yn eu rolau seneddol ac o fewn eu cynghorau ieuenctid lleol.

Mae’r bobl ifanc hyn yn angerddol dros hawliau plant yng Nghymru ac yn falch o’u treftadaeth Gymreig. Maen nhw’n dadlau’n gryf dros y Gymraeg a’i diwylliant, gan ddefnyddio eu platfform i dynnu sylw at y gwaith gwych sy’n digwydd yn awdurdodau lleol Cymru. Maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau bod hunaniaeth Gymreig yn cael ei chydnabod a’i dathlu ar lefel y DU. Yn nadleuon y Gynhadledd Flynyddol yn y gorffennol, maen nhw wedi siarad yn bendant am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, a gwnaethant yr un peth yn Nhŷ’r Cyffredin.

Agorodd Aoife (Caerdydd), Arweinydd Dadleuon Cymru, y drafodaeth ar un o’r pynciau allweddol. Cafodd cyfanswm o bum pwnc eu trafod, a bydd dau o’r rhain (pleidleisiau i bobl ifanc 16 oed ac urddas mislif) yn llywio ymgyrch Senedd Ieuenctid y DU ar gyfer 2025/26.

Wrth baratoi, mae Aelodau Senedd Ieuenctid wedi bod yn mireinio eu sgiliau dadlau ac ysgrifennu areithiau yn ystod y ddau Ddiwrnod Datblygu Aelodau Senedd Ieuenctid diwethaf. Mae eu gwaith caled a'u hymrwymiad wedi bod yn wirioneddol glodwiw.