Mae ymchwilwyr ifanc Plant yng Nghymru wedi datgelu eu hymchwil arloesol ar gynaliadwyedd a’r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth fyw bywydau ecogyfeillgar. Lansiwyd eu canfyddiadau, a gasglwyd mewn adroddiad cynhwysfawr, yn swyddogol mewn digwyddiad dan arweiniad ieuenctid a ddaeth â gweithwyr proffesiynol, ymchwilwyr a sefydliadau amgylcheddol ynghyd.

Fe’i cynhaliwyd yn Sbarc, a rhoddodd y digwyddiad lwyfan i ymchwilwyr ifanc gyflwyno eu canfyddiadau a’u hargymhellion, arddangos eu hyfforddiant fel hyfforddwyr dan arweiniad ieuenctid, a rhannu eu profiadau o fod yn rhan o’r prosiect.

Roedd hefyd yn nodi lansiad Strategaeth bum mlynedd newydd Plant yng Nghymru, gan atgyfnerthu ymrwymiad hirdymor i lais ac ymgysylltiad ieuenctid.

Arweiniodd ymchwilwyr ifanc drafodaethau ar eu dulliau ymchwil, y cyfleoedd hyfforddi a gawsant, a'u canfyddiadau allweddol. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sgwrs ar bwysigrwydd llais ieuenctid mewn gweithredu ar yr hinsawdd, ynghyd â gweithdai rhyngweithiol.

Er mwyn sicrhau hygyrchedd, creodd y bobl ifanc nifer o fersiynau o'u hadroddiad, gan gynnwys argraffiad addas i blant wedi'i argraffu ar bapur wedi'i hadu—dull cynaliadwy sy'n adlewyrchu eu hymrwymiad i gyfrifoldeb amgylcheddol.

Ariennir y prosiect hwn gan UKRI a'r Gronfa Gwybodaeth Gymunedol, gan dynnu ynghyd bobl ifanc, gweithwyr proffesiynol yn y gweithlu plant, sefydliadau amgylcheddol, ac ymchwilwyr i ysgogi newid ystyrlon.

Ynglŷn â’r Ymchwil

  • Bu ymchwilwyr yn ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru drwy gyfrwng arolygon a grwpiau ffocws.
  • Mae rhwystrau allweddol i fyw'n gynaliadwy a nodwyd gan bobl ifanc yn cynnwys agweddau rhieni, pwysau gan gyfoedion, systemau cred, diffyg gwybodaeth, dylanwad y cyfryngau cymdeithasol, a chost.
  • Er gwaethaf yr heriau hyn, mae llawer o bobl ifanc yng Nghymru eisoes yn gweithredu drwy ailgylchu, cerdded a beicio yn lle gyrru, defnyddio nwyddau ecogyfeillgar, a dewis trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Mae’r adroddiad yn cloi gydag argymhellion yr ymchwilwyr ar gyfer newid.

Beth mae'r Ymchwilwyr Ifanc yn ei Ddweud

“Rwy’n meddwl ei bod mor hanfodol bod ymchwil fel hyn yn cael ei rannu ac yn dod i gysylltiad â phŵer deddfwriaethol er mwyn inni allu lliniaru effeithiau amlwg iawn yr argyfwng hinsawdd.” Cor

“Mae casglu barn cenedlaethau iau am faterion dybryd yn hanfodol er mwyn deall sut i ddatrys problemau mawr sy’n fwyaf tebygol o gael yr effaith fwyaf arnyn nhw pan fyddan nhw’n oedolion. Mae adrodd ar y wybodaeth hon yn bwysig fel bod y cyhoedd a hyd yn oed pobl mewn sefyllfaoedd pwerus yn gallu gweithredu a helpu i siapio byd rydyn ni’n haeddu byw ynddo.” Harriet

“Mae’r adroddiad hwn yn bwysig oherwydd ei fod yn cyfleu barn pobl ifanc Cymru. Ein cenhadaeth oedd gwrando ar y safbwyntiau hyn a'u rhannu; trwy lansio ein hadroddiad, rydyn ni’n gobeithio annog ein llywodraeth a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc i weithredu yn unol â’n hargymhellion.” Elizabeth

Mae'r ymchwil hwn yn amlygu effaith astudiaethau dan arweiniad cyfoedion a phwysigrwydd lleisiau ieuenctid mewn gweithredu ar yr hinsawdd. Drwy gasglu mewnwelediadau gan bobl ifanc ledled Cymru, mae’r ymchwilwyr yn ymhelaethu ar y newidiadau y mae pobl ifanc yn credu sy’n angenrheidiol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.

Darllenwch yr adroddiad llawn:

Adroddiad llawn