Bedair gwaith y flwyddyn, mae Cymru Ifanc yn trefnu penwythnos preswyl lle gall ein gwirfoddolwyr ddod at ei gilydd i ddysgu sgiliau newydd, i gymryd rhan mewn gweithgareddau, ac i ymuno â rhai o’r byrddau a’r grwpiau rydyn ni’n eu cefnogi. Yn ystod y sesiynau preswyl hyn, rydyn ni hefyd yn cyflawni ymgyngoriadau i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, gan sicrhau bod barn a safbwyntiau ein gwirfoddolwyr ifanc yn cael eu hystyried ar gyfer deddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru sydd i ddod.
Lleoliad ein sesiwn breswyl ddiweddaraf oedd Antur Maenor Abernant, ac fe’i cynhaliawyd rhwng dydd Iau y 15fed a dydd Sadwrn yr 17eg o Chwefror 2024. Thema’r sesiwn hon oedd dathlu cyflawniadau holl Wirfoddolwyr Cymru Ifanc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd y sesiwn yn llawn dop o weithgareddau, a threfnodd tîm Cymru Ifanc amrywiaeth o bethau difyr a gweithdai rhyngweithiol i’n gwirfoddolwyr ifanc fod yn rhan ohonynt.
Er bod yna weithgareddau cyffrous fel helfeydd sborion, weiren zip, nosweithiau ffilm ac abseilio, roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i lawer o fyrddau a grwpiau gwirfoddolwyr Cymru Ifanc ddod at ei gilydd a myfyrio ar y gwaith roedden nhw wedi’i gyflawni ar hyd 2023. Roedd hefyd yn gyfle iddyn nhw ystyried y materion pwysig a’r prosiectau roedden nhw am eu hadolygu ar hyd 2024.
Dyma rai o’r sesiynau ymgynghori a gweithdai drefnon ni yn ystod y sesiwn breswyl:
-
Gweithdy Ymddiriedolwyr
-
Paratoi ar gyfer Gŵyl Cymru Ifanc 2024
-
CCUHP a Meysydd Blaenoriaeth
-
Ymgynghori ar yr Ardoll Ymwelwyr
-
Ymgynghori ar y Tasglu Anabledd
Os hoffech chi ymwneud â Cymru Ifanc fel gwirfoddolwr, llanwch y ffurflen hon, os gwelwch yn dda: Volunteer Registration Form
Hefyd gallwch chi gysylltu â’r tîm yn uniongyrchol trwy anfon e-bost aton ni i young.wales@childreninwales.org.uk