Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc, rhannwch y cyfle cyffrous hwn. Mae Cymru Ifanc yn chwilio am bobl ifanc i ymuno â'i byrddau a'i grwpiau. Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan ynddi. Mae gwrando ar bobl ifanc a chlywed ei lleisiau yn rhan allweddol o Gymru Ifanc. Rydym yn cefnogi pobl ifanc i ddweud eu dweud ar faterion a allai effeithio ar fywydau nhw. Mae Cymru Ifanc yn croesawu ceisiadau gan bob person ifanc i gymryd rhan achos rydym wedi ymrwymo i gynrychioli amrywiaeth o bobl ifanc yng Nghymru.
Fel aelod o Fyrddau a Grwpiau Cymru Ifanc, bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i:
• Cwrdd â ffrindiau newydd
• Cael hwyl
• Cwrdd ag Aelodau'r Senedd a Swyddogion Llywodraeth Cymru
• Cymryd rhan mewn Ymgynghoriadau
• Mynychu preswylwyr
• Dysgu sgiliau a hyfforddiant newydd
• Gwirfoddoli
• Mynychu digwyddiadau fel Gŵyl Flynyddol Cymru Ifanc
• Cynrychioli Cymru Ifanc mewn digwyddiadau Cenedlaethol
• Cyd-gynhyrchu prosiectau
• Hyrwyddo gwaith Cymru Ifanc drwy ein Cylchlythyr, ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol
• Yn ogystal â llawer mwy...
Gwahoddir pob aelod newydd a phresennol i fynychu hyfforddiant a phreswyl cynefino llawn ar ddydd Gwener y 6ed o Fai i ddydd Sul yr 8fed o Fai 2022. Yn ystod y cyfnod preswyl cewch gyfle i gofrestru gyda thelerau o gyfeirio eich bwrdd neu grŵp a hefyd dderbyn calendr o gyfarfodydd a digwyddiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Darperir yr holl lety, cludiant a bwyd. Bydd opsiynau i ymuno'n rhithwir os na allwch fynychu'n wyneb wrth wyneb a bydd croeso i weithwyr cymorth fynychu hefyd.
Mae gennym 5 bwrdd a grŵp ar gael i bobl ifanc ymuno:
· Bwrdd Prosiect Cymru Ifanc
Mae'r Bwrdd yn gweithio i roi cyngor a chraffu ar Gymru Ifanc a'i holl feysydd gwaith o safbwynt person ifanc.
11 i 18 oed
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu'n wyneb wrth wyneb yn chwarterol ar ddydd Sadwrn
Mae Aelodaeth yn para am 2 flynedd
Mae gan Aelodau cyfle i gofrestru am flwyddyn ychwanegol fel mentor cyfoedion
· Grŵp Diddordeb Arbennig Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol
Mae'r Grŵp yn gweithio i roi cyngor ac adborth i Weinidogion a Swyddogion Llywodraeth Cymru ar bolisïau a deddfwriaeth addysg a chyfiawnder cymdeithasol.
11 i 18 oed
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu'n wyneb wrth wyneb ar nosweithiau Mercher dengwaith y flwyddyn
Mae'r aelodaeth yn para am flwyddyn a gellir ei hadnewyddu'n flynyddol
· Grŵp Diddordeb Arbennig Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r Grŵp yn gweithio i roi cyngor ac adborth i Weinidogion a Swyddogion Llywodraeth Cymru ar bolisïau a deddfwriaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
11 i 18 oed
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu'n wyneb wrth wyneb ar noswaith Mercher pob ddeufis
Mae'r aelodaeth yn para am flwyddyn a gellir ei hadnewyddu'n flynyddol
· Grŵp Diddordeb Arbennig Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae'r Grŵp yn gweithio i roi cyngor ac adborth i Weinidogion a Swyddogion Llywodraeth Cymru ar bolisïau a deddfwriaeth newid yn yr hinsawdd a materion gwledig.
11 i 18 oed
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu'n wyneb wrth wyneb ar noswaith Mercher pob deufis
Mae'r aelodaeth yn para am flwyddyn a gellir ei hadnewyddu'n flynyddol
· Grŵp Rhanddeiliad Ieuenctid Cenedlaethol
Arweinir gan bobl ifanc ledled Cymru. Maent yn mynd i'r afael â materion iechyd meddwl ac yn adolygu mentrau iechyd meddwl a lles gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ledled Cymru.
14 i 25 oed
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein neu'n wyneb wrth wyneb ar ddydd Sadwrn yn fisol
Mae aelodaeth yn para am 2 flynedd a gellir ei hadnewyddu'n flynyddol
Os ydych yn gweithio gydag unrhyw bobl ifanc a hoffai gofrestru, rhannwch y ddolen hon gyda nhw i lenwi ein ffurflen gais byr drwy glicio yma
Dyddiad Cau Dydd Gwener y 1af o Ebrill 2022
Byddwn yn cadarnhau aelodaeth y bwrdd neu'r grŵp erbyn dydd Gwener yr 8fed o Ebrill 2022.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: tegan.waites@childreninwales.org.uk
'Cael llais, cael dewis.'