Adroddiad Cymru Ifanc i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
Rydym yn falch o gael dweud ein bod wedi cyhoeddi'r adroddiad a gyflwynodd Cymru Ifanc i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sydd i’w weld isod, ynghyd â chrynodeb gweithredol.
Lluniwyd yr adroddiad hwn er mwyn archwilio cyflwr hawliau plant yng Nghymru, yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Gwnaed argymhellion allweddol ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â hawliau plant. Cyd-luniwyd yr adroddiad gyda gwirfoddolwyr ifanc a oedd yn rhan o grŵp penodedig o Gymru Ifanc gyda ffocws ar ymchwilio i hawliau plant yng Nghymru a gweithio i lunio'r adroddiad hwn.
O ganlyniad i'r adroddiad hwn, gwahoddwyd y bobl ifanc a fu'n ymwneud â'r prosiect i fynd i Genefa i leisio eu barn am hawliau plant. Gallwch ddarganfod mwy am y daith hon yma.
Hoffai holl staff Cymru Ifanc ddiolch i’r bobl ifanc a fu’n ymwneud â’r prosiect am eu gwaith caled a’u hymroddiad dros fisoedd lawer cyn cyhoeddi’r adroddiad hwn.
CYMRAEG Executive Summary Young Wales report to the UNCRC.pdf
CYMRAEG Young Wales Report to the United Nations Committee on the Rights of the Child.pdf
Newyddion sy’n gysylltiedig
Grŵp Ymchwil gan Gymheiriaid yn rhoi cyflwyniad yn…
Stopio cosbi corfforol yng Nghymru: Rydyn ni eisi…
Coronafeirws (COVID-19) a Plant yng Nghymru
Dadl Cam 3 ar y Mesur Plant
Ar 21 Ionawr 2020, pasiwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) yng ngham 3 gan y Senedd.