July Residential 2024
Young Wales Big Conversation Logo
July Residential 2024

 

Rydyn ni’n galw ar blant a phobl ifanc 11-25 mlwydd oed o bob rhan o Gymru i ymuno â menter newydd Cymru Ifanc, o’r enw "Y Sgwrs Fawr".

Mae’r prosiect hwn yn llwyfan i bobl ifanc gael ymgysylltu â’r 7 thema allweddol y mae Cymru Ifanc yn gweithio arnyn nhw gyda’u Byrddau Cynghori pobl ifanc:

  • Teimlo’n Ddiogel Ar-lein ac mewn Perthynas
  • Cyfiawnder Cymdeithasol a Newid Hinsawdd
  • Addysg a Hyfforddiant i Bobl dan 16 Mlwydd Oed
  • Addysg a Hyfforddiant i Bobl 16–25 Mlwydd Oed
  • LHDTC+
  • Iechyd Meddwl a Lles
  • Gofalwyr Ifanc

Ond nid siarad yn unig mo bwriad y Sgwrs Fawr, mae’n golygu gweithredu. Bydd y safbwyntiau sy’n cael eu casglu’n cael eu cyflwyno’n uniongyrchol i Weinidogion Llywodraeth Cymru yn 2025, gan sicrhau bod safbwyntiau plant a phobl ifanc yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.

Drwy gydol hydref 2024, bydd ein haelodau tîm yn teithio ledled Cymru’n cynnal sesiynau gyda grwpiau o bobl ifanc bob wythnos. Rydyn ni wedi cyffroi’n lân am gael mynd allan ar y ffordd a chychwyn ar ein taith!

Canolbwynt y prosiect wedyn fydd Gŵyl Cymru Ifanc, yn Sbarc, Caerdydd, i’w chynnal Tachwedd 16eg, 2024. Yma, bydd grwpiau ffocws a thrafodaethau dwfn yn helpu i siapio’r negeseuon allweddol y bydd ein gwirfoddolwyr yn eu cario gyda nhw pan fyddan nhw’n cwrdd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Pam mae’r Sgwrs Fawr yn Bwysig?

Nod y Sgwrs Fawr yw codi lleisiau plant a phobl ifanc yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael eu clywed gan lunwyr penderfyniadau.

Bydd yr adborth a gesglir yn cael ei gyfuno i lunio adroddiad gan staff Cymru Ifanc yn 2025, gan adlewyrchu nid yn unig ar beth mae pobl ifanc yn ei feddwl, ond hefyd sut gall eu mewnbwn ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Sut mae’n Gweithio?

Bydd y rhai sy’n mynd i’r sesiynau a gynhelir gan ein tîm Cymru Ifanc yn cael cyfle i ymuno â’r Sgwrs Fawr a rhoi eu barn ar ein themâu a phynciau allweddol. Byddant hefyd yn cael arolwg caeedig i gyflwyno eu barn yn breifat.

Yn ystod Gŵyl Cymru Ifanc, bydd plant a phobl ifanc wedyn yn cael cymryd rhan mewn trafodaethau a grwpiau ffocws pellach i helpu cael fersiwn derfynol o’r negeseuon allweddol.

Ond mae’r digwyddiadau hyn yn ymwneud â mwy na dim ond cael sgwrs, eu bwriad yw cael effaith. Rydym am sicrhau y gall plant a phobl ifanc gael eu lleisiau wedi’u clywed a bod yn rhan o siapio dyfodol Cymru.

Am fwy o wybodaeth, neu i gymryd rhan, cysylltwch â Cymru Ifanc ar young.wales@childreninwales.org.uk