Cyfnod prysur! 

Roedd yr holl wybodaeth yn awgrymu y byddai Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal yn yr hydref, ac roedden ni wedi dechrau rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer hynny. Ond yna... aeth popeth yn ffradach, ond yn ffodus daeth Kai i’n hachub.  

Roedd Kai, sy’n aelod o’r grŵp, wedi pleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a gynhaliwyd ym mis Mai eleni, ac roedden ni eisoes wedi penderfynu defnyddio hynny i ledaenu gwybodaeth am y broses bleidleisio. Ar ôl ffilmio Kai ar ddiwrnod y bleidlais, fe drefnon ni gyfweliad gydag e am y profiad, gan ateb llawer o’r cwestiynau roedd Pobl Ifanc wedi’u gofyn.  

Dilynwyd hynny’n fuan gan ddwy ffilm fer arall ar gyfer Instagram: un yn rhoi cyhoeddusrwydd i ddyddiadau allweddol yr Etholiad Cyffredinol, ac yna un i atgoffa ac annog pawb oedd yn gymwys i fynd allan a phleidleisio. 

Fe gawson ni gyfarfod grŵp hefyd, i edrych ar yr adnoddau a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Etholiadol ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, a thrafod y rhain, gan ateb cwestiynau ein gilydd.  

At ei gilydd, rydyn ni wedi cael cwpl o fisoedd prysur ond llwyddiannus! 

Mae’r grŵp yn cael haf tawel, ond byddwn ni’n ailafael yn y gwaith yn yr hydref, i ddechrau cynllunio ar gyfer Wythnos Croesawu eich Pleidlais 2025 a’r posibilrwydd o fod yn rhan o waith ymchwil ar addysg ddemocrataidd a chysylltu â’r grwpiau sy’n cyfateb i ni yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Ymunwch â ni! – cofiwch, doedd y Deinosoriaid ddim yn gallu Pleidleisio, ond FE ALLWCH CHI! 

Insta Dino Poster Welsh 1 Revised.png