Polisi Preifatrwydd

Mae Plant yng Nghymru wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol ac i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Dim ond os byddwch yn gofyn i ni y byddwn yn anfon gwybodaeth atoch ac ni fyddwn byth yn rhannu eich gwybodaeth â chwmnïau marchnata. Bydd plant yng Nghymru bob amser yn trin eich gwybodaeth bersonol mewn ffordd deg, hawdd ei deall a chyfreithlon. Gallwch ofyn i ni ar unrhyw adeg a byddwn yn dangos y wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw ar eich cyfer.

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut rydym yn casglu ac yn storio eich gwybodaeth, pam mae ei hangen arnom a beth rydym yn ei wneud â hi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Polisi Preifatrwydd, y wybodaeth a gewch neu'r wybodaeth rydym yn ei phrosesu a'i storio, cysylltwch â'r:

Arweinydd Diogelu Data

Plant yng Nghymru, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (Sbarc),  Heol Maendy,  Caerdydd  CF24 4HQ

E-bost:         info@childreninwales.org.uk

Ffôn:             029 2034 2434

Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc ac nad ydych chi’n siŵr am unrhyw beth yn y polisi hwn, gofynnwch i aelod o staff Cymru Ifanc, neu ffoniwch ni ac fe awn ni drwyddo gyda chi. Gallwch hefyd ofyn i’ch arweinydd lleol, rhiant neu ofalwr i siarad â ni a byddwn yn mynd drwyddo gyda nhw.

Pwy ydym ni?

Plant yng Nghymru yw’r corff trosfwaol cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.  Mae Plant yng Nghymru yn elusen gofrestredig (1020313) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant (2805996).

Mae Cymru Ifanc yn rhan o Plant yng Nghymru. Mae holl staff Cymru Ifanc yn gweithio i Plant yng Nghymru. Pwrpas Cymru Ifanc yw gwrando ar bobl ifanc a’u helpu i rannu eu lleisiau a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed.

Pa wybodaeth sydd ei hangen arnom?

Er mwyn i ni allu casglu a storio eich gwybodaeth bersonol, rhaid i Plant yng Nghymru bob amser ddilyn y rheolau yn Neddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU).

O dan y cyfreithiau hyn, gelwir Plant yng Nghymru yn ‘rheolwr data’ mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Mae hyn yn golygu bod Plant yng Nghymru yn gyfrifol am gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel bob amser a dim ond yn gofyn amdani a’i chadw pan fydd gwir angen, a dim ond yn ei defnyddio mewn ffordd rydych wedi cytuno iddi.

Dim ond data personol sylfaenol fyddwn ni fel arfer yn ei gasglu, a all gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, e-bost, sefydliad neu feysydd gwaith. Mae’r wybodaeth hon yn sicrhau y gallwn gyflawni ein rôl fel sefydliad ymbarél cenedlaethol, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a rhannu gwybodaeth berthnasol.

O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn datgan bod ffotograffau cyffredinol yn cael eu tynnu yn ein digwyddiad neu efallai y byddwn yn gofyn am eich caniatâd i dynnu neu ddefnyddio ffotograff penodol ohonoch er mwyn hyrwyddo ein gwaith neu fentrau.

Os ydych wedi cofrestru ar un o'n cyrsiau hyfforddi achrededig, bydd angen eich dyddiad geni, rhywedd a hysbysiad o unrhyw anghenion ychwanegol arnom hefyd. Mae'r wybodaeth hon yn eich nodi chi fel y dysgwr ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu bodloni eich anghenion dysgu. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i'ch cofrestru ar gyfer achrediad. Gwneir hyn drwy wefan ddiogel a gynhelir gan Agored Cymru, y corff achredu. At ddibenion achredu, mae Agored Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Blant yng Nghymru brosesu a storio’r wybodaeth hon yn ddiogel. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Agored Cymru yn prosesu eich gwybodaeth, ewch i'w gwefan www.agored.cymru.

O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu fel ‘Categori Arbennig’ a byddwn ond yn prosesu’r wybodaeth hon pan fyddwn dan gontract a phan fyddwch wedi rhoi eich cydsyniad penodol i ni wneud hynny. Byddwn bob amser yn prosesu'r wybodaeth hon yn ddiogel.

Os ydych o dan 18 oed, efallai y bydd angen i ni ofyn am eich dyddiad geni weithiau. Gwnawn hyn i sicrhau bod gennym y caniatâd iawn i weithio gyda chi a'ch bod yn mynychu'r digwyddiadau iawn i bobl ifanc. Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth arall, fel eich rhywedd ac a oes gennych unrhyw anableddau. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn darparu ein gwasanaethau a’n gwybodaeth mewn ffordd sy’n iawn i’ch anghenion, er enghraifft ar gyfer trefniadau mynediad, digwyddiadau preswyl neu ar gyfer darparu deunyddiau digwyddiadau.

Os byddwch yn dod i ddigwyddiad gyda’ch grŵp lleol, yna bydd arweinydd y grŵp hwn eisoes wedi casglu a storio eich gwybodaeth, felly nid oes ei hangen arnom. Bydd angen i'ch arweinydd lleol ddweud wrthym faint o bobl sy'n dod, ond nid eich enwau.

Pan fyddwch chi'n dod i ddigwyddiad gyda'ch arweinydd, rydym am sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu. Felly, os oes gennych anabledd neu os oes angen unrhyw fwyd arbennig arnoch, bydd eich arweinydd yn rhoi gwybod i ni.

Er enghraifft, efallai y bydd eich arweinydd yn dweud:

“Mae gennym ni 10 o bobl ifanc yn dod i’r digwyddiad ac mae 1 o’r rhain angen mynediad cadair olwyn”.

Yn yr achos hwn, mae angen i ni wybod am yr anabledd i wneud yn siŵr y gallwn ddarparu mynediad, ond nid ydym yn gofyn am eich enw gan nad ydym ei angen. Cedwir y wybodaeth hon yn ddienw, sy’n golygu nad ydym yn cysylltu eich enw â’ch anabledd.

Os byddwch yn dod i ddigwyddiad ar eich pen eich hun, bydd angen i ni gael rhagor o wybodaeth amdanoch. Mae hyn er mwyn i ni allu gweithio gyda chi a chysylltu â chi'n uniongyrchol a rhoi gwybod i chi ble bydd y digwyddiad a faint o'r gloch y bydd yn dechrau.

Os ydych o dan 18 oed, byddwn yn gofyn i’ch rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr lofnodi ffurflen gydsynio er mwyn i chi allu mynychu digwyddiad a allai gynnwys aros dros nos neu deithio.

Fel arfer byddwn yn gofyn i chi am:

  • Eich enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Sut rydych am i ni gysylltu â chi (e.e. ffôn, neges destun, e-bost neu ffordd arall o’ch dewis)
  • Manylion cyswllt brys eich rhiant neu ofalwr

Weithiau mae angen i ni ofyn i chi am wybodaeth arall. Gelwir y wybodaeth hon yn Data Categori Arbennig. Mae angen i ni gasglu a storio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr ein bod yn cael gweithio’n uniongyrchol gyda chi ac i wneud yn siŵr y gallwn ddarparu ein gwasanaethau mewn ffordd sy’n diwallu eich anghenion:

Efallai y byddwn yn gofyn i chi am:

  • Eich dyddiad geni
  • Eich rhywedd
  • A oes gennych unrhyw anableddau

Bydd angen i ni wybod y wybodaeth hon:

  • Os ydych yn mynychu heb eich arweinydd grŵp lleol
  • Os yw ein staff yn gyfrifol am eich diogelwch pan fyddwch yn teithio i ddigwyddiad
  • Os ydych yn mynychu unrhyw gyfarfodydd preswyl

Dim ond os ydych wedi cytuno i hyn y byddwn yn prosesu eich data Categori Arbennig. Byddwn bob amser yn cadw'r wybodaeth hon yn ddiogel.

Os ydym wedi gofyn am fanylion cyswllt eich rhiant neu ofalwr rhag ofn y bydd argyfwng, byddwn bob amser yn cadw eu gwybodaeth yn ddiogel hefyd.

Pam mae Plant yng Nghymru yn cael prosesu eich gwybodaeth bersonol?

Dim ond ar yr amod ein bod yn dilyn holl reolau Deddf Diogelu Data 2018 y caniateir i ni gasglu a storio eich gwybodaeth. Rydym wedi rhestru isod rai o’r seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i brosesu eich gwybodaeth bersonol.

Pan fyddwch yn mynychu cynhadledd, seminar, gweithdy, digwyddiad neu gwrs hyfforddi byddwn yn prosesu eich data personol i:

  • Roi cadarnhad i chi o'ch archeb, manylion y lleoliad, trefniadau mynediad a lle mae taliad wedi'i wneud, i brosesu a chofnodi'r taliad hwn. Mae'r prosesu hwn yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad y contract rhyngom. Rydym yn defnyddio asiantaethau allanol o'r enw Eventbrite a WhiteFuse i brosesu rhywfaint o'n gwybodaeth archebu. Gallwch ddod o hyd i fanylion eu Polisïau Preifatrwydd yma: Eventbrite | WhiteFuse.
  • Anfon ffurflen adborth neu werthusiad atoch i'w chwblhau a'i dychwelyd. Mae hyn er ein buddiannau dilys i asesu effeithiolrwydd ac addasrwydd ein digwyddiadau ac i wella ein gwasanaethau.
  • Hyrwyddo ein digwyddiadau gan ddefnyddio ffotograffau. Yn ein cynadleddau, seminarau, gweithdai a chyrsiau hyfforddi, efallai y caiff lluniau eu tynnu. Bydd y lluniau hyn ond yn cael eu defnyddio i adrodd ar a rhannu digwyddiadau blaenorol ac i hyrwyddo digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Mae’r prosesu hwn er ein buddiannau dilys i rannu gwybodaeth am ddigwyddiadau a hyrwyddo digwyddiadau yn y dyfodol o fewn sectorau proffesiynol perthnasol.
  • Rhoi gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau tebyg y byddwn yn eu cynnal yn y dyfodol o bosibl. Dim ond pan fyddwch wedi dweud wrthym yn flaenorol eich bod yn dymuno cael gwybodaeth y byddwn yn gwneud hyn. Yn yr achos hwn, byddwn yn dibynnu ar eich cydsyniad i brosesu eich data personol yn gyfreithiol.
  • Eich cofrestru ar gyrsiau hyfforddi achrededig lle bo'n berthnasol. Dim ond gyda'ch cydsyniad y byddwn yn eich cofrestru ar ein cyrsiau hyfforddi achrededig. I wneud hynny, byddwn yn gofyn i chi ddarparu eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhywedd, gallu ac, mewn rhai achosion, eich rhif yswiriant gwladol. Defnyddir y wybodaeth hon i'ch cofrestru'n ddiogel gydag Agored, y corff achredu. Mae hwn yn ofyniad ar gyfer cofrestriad Agored a heb y wybodaeth hon, ni allwn eich cofrestru ar gyfer achrediad. Mae'r wybodaeth hon yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad y contract, yn yr achos hwn, y broses achredu.

Os byddwch yn cael marchnata uniongyrchol ar gyrsiau hyfforddi, cynadleddau, seminarau, gweithdai a digwyddiadau eraill Plant yng Nghymru, byddwn yn prosesu eich data personol i:

  • Roi gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau yn y dyfodol. Ein nod yw sicrhau bod y wybodaeth a anfonwn atoch o ddiddordeb ac yn berthnasol i'ch gwaith. Dim ond pan fyddwch wedi cydsynio i'w dderbyn yn flaenorol neu os ydych wedi mynychu digwyddiad tebyg yn y gorffennol, er enghraifft, y byddwn yn anfon marchnata uniongyrchol atoch. Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd (mae’r adran Beth yw eich hawliau isod yn rhoi manylion ar sut i dynnu eich cydsyniad yn ôl).

Fel aelod o Plant yng Nghymru, byddwn yn prosesu eich data personol i:

  • Roi gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau aelodaeth, buddion, adnoddau a gwybodaeth am ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae'r prosesu data hwn yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad y contract aelodaeth rhyngom.
  • Rhoi gwybodaeth i chi am ffioedd adnewyddu aelodaeth a dyddiadau adnewyddu. Mae’r prosesu data hwn at ddibenion buddiannau dilys er mwyn helpu i gadw aelodaeth ac ymgysylltu â Plant yng Nghymru.

Rydym yn defnyddio asiantaeth allanol o'r enw WhiteFuse i brosesu rhywfaint o'n gwybodaeth aelodaeth. Gallwch ddod o hyd i fanylion eu Polisi Preifatrwydd yma.

Pan fyddwch yn cael ymgynghoriadau, arolygon, e-friffiadau, e-fwletinau a chylchlythyrau, byddwn yn prosesu eich data personol i:

  • Roi gwybodaeth pwnc a sector penodol i chi. Dim ond os ydych wedi cydsynio i'w derbyn yn flaenorol y byddwn yn anfon y wybodaeth hon atoch. Byddwn yn dibynnu ar eich cydsyniad i brosesu eich data personol yn gyfreithiol. Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
  • Coladu canlyniadau arolwg. Bydd yr holl sylwadau a chanfyddiadau a goledir o arolygon yn aros yn ddienw. Gellir rhannu canfyddiadau arolygon yn genedlaethol neu eu cyhoeddi mewn adroddiadau. Pan fyddwn yn cyhoeddi canfyddiadau neu'n defnyddio dyfyniad uniongyrchol, ni fyddwn byth yn nodi'r ffynhonnell oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny. Mae’r data hwn yn cael ei brosesu at ddibenion buddiannau dilys er mwyn sicrhau bod lleisiau plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn cael eu clywed ar lefel genedlaethol; llywio polisi cenedlaethol; a gwella'r gwasanaethau a ddarperir gan Plant yng Nghymru.

Pan fyddwch yn comisiynu Plant yng Nghymru ar gyfer hyfforddiant, ymgynghoriaeth, rheoli prosiect, cyflawni prosiectau a darnau eraill o waith tymor byr, byddwn yn prosesu eich data personol i:

  • Ganiatáu i ni gyflawni’r comisiwn a rhoi rhagor o fanylion penodol i chi am y gwaith a gomisiynwyd, gan gynnwys adroddiadau, diweddariadau, ystadegau ac at ddiben prosesu taliadau. Bydd hyn yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad y contract a gomisiynwyd rhyngom.

Pan fyddwch yn ymgysylltu neu’n gweithio gyda Plant yng Nghymru, byddwn yn prosesu eich data personol i:

  • Nodi'r gwahanol sectorau a sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw. Defnyddir y wybodaeth hon at ddibenion adrodd, megis ein hadroddiadau blynyddol ac adroddiadau cyllidwyr a chaiff eu gwneud yn ddienw cyn eu cyhoeddi. Mae er ein buddiannau dilys i asesu ac adrodd ar gyrhaeddiad ein gwaith. Ni fyddwn yn anfon marchnata uniongyrchol atoch o ganlyniad i'ch ymgysylltiad â ni oni bai eich bod wedi rhoi cydsyniad penodol i ni wneud hynny neu wedi mynychu digwyddiad tebyg o'r blaen.
  • Nodi dewis iaith, gofynion mynediad ac anghenion ychwanegol. Defnyddir y wybodaeth hon i sicrhau bod ein hymgysylltiad yn unol ag anghenion a nodwyd. Mae er ein buddiannau dilys i nodi anghenion y rhai rydym yn gweithio gyda nhw i'n galluogi i ymgysylltu'n briodol.
  • Adnabod dewis iaith, gofynion mynediad ac anghenion ychwanegol at ddiben adrodd i’n cyllidwyr. Mae'r holl wybodaeth yn ddienw ac wedi'i chyflwyno ar ffurf ystadegol. Mae er ein buddiannau dilys i goladu'r wybodaeth hon fel gofyniad ein cyllidwyr sy'n defnyddio hyn i nodi cyrhaeddiad ac angen sefydliadol.

Pan fyddwch yn ymuno ag un o’n rhwydweithiau neu brosiect a hwylusir gan Plant yng Nghymru, byddwn yn prosesu eich data personol i:

  • Roi gwybodaeth i chi am drefniadau ar gyfer cyfarfodydd, agendâu, papurau a gwybodaeth berthnasol arall yn ymwneud â'r rhwydwaith neu'r prosiect. Mae er ein buddiannau dilys i sicrhau bod aelodau'r rhwydwaith neu'r rhai sy'n cymryd rhan mewn prosiect yn cael gwybodaeth berthnasol i ddilyn nodau'r rhwydwaith neu'r prosiect.

Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd (cyflogedig neu wirfoddol) yn Plant yng Nghymru, byddwn yn prosesu eich data personol i:

  • Roi gwybodaeth i chi am y swydd, asesu eich addasrwydd ar gyfer y swydd a, lle bo'n berthnasol, rhoi gwybod i chi am gamau nesaf y broses ddethol. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw’n ddiogel gan Plant yng Nghymru. Mae ein pecynnau cais yn cynnwys gwybodaeth fanylach am ba wybodaeth rydym yn ei phrosesu ac am ba mor hir rydym yn cadw'r wybodaeth hon. Mae er ein buddiannau dilys i brosesu’r data hwn fel rhan o’n proses recriwtio.

Caniateir i ni brosesu eich gwybodaeth pan fyddwch yn cymryd rhan mewn digwyddiad Cymru Ifanc

  • Mae hyn er mwyn i ni allu anfon gwybodaeth atoch cyn y digwyddiad i roi gwybod i chi am y lleoliad a'r amser.
  • Efallai y byddwn hefyd yn anfon gwybodaeth atoch am sut i deithio i'r digwyddiad.
  • Rydym yn tynnu lluniau ym mhob un o'n digwyddiadau ac yn eu defnyddio i ddangos i bawb beth rydym yn ei wneud ac i hyrwyddo digwyddiadau Cymru Ifanc yn y dyfodol. Rydym hefyd yn defnyddio'r lluniau i ddweud wrth ein cyllidwyr am ein gwaith. Wrth gwrs, ni fyddwn yn tynnu nac yn defnyddio'ch llun os nad ydych chi eisiau i ni wneud hynny. Rhowch wybod i aelod o staff Cymru Ifanc ar y diwrnod.
  • Os ydych yn dod i’r digwyddiad ar eich pen eich hun, efallai y byddwn yn gofyn am fanylion cyswllt eich rhiant neu ofalwr. Mae hyn rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â nhw mewn argyfwng yn ystod y digwyddiad.
  • Efallai y byddwn yn gofyn i chi a oes gennych anabledd, neu angen unrhyw fwyd arbennig neu beth yw eich dewis iaith. Mae hyn i gyd fel y gallwn ddiwallu eich anghenion a'ch cadw'n ddiogel.
  • Ar ôl y digwyddiad, efallai y byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am y trafodaethau neu luniau o'r digwyddiad.
  • Gall rhai o’n digwyddiadau gael eu cynnal ar-lein gan Zoom, Teams, neu Skype ac ati. Os ydym yn bwriadu recordio un o'r digwyddiadau hyn byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw a gallwch ofyn i ni beidio â gwneud.

Dywed y gyfraith ein bod yn cael gwneud hyn gan fod gennym fuddiant dilys.

Caniateir i ni brosesu eich gwybodaeth os byddwch yn cymryd rhan mewn arolwg:

  • Efallai y byddwn yn gofyn am eich oedran mewn arolwg. Mae hyn yn ein helpu i wybod beth sy’n bwysig i wahanol grwpiau oedran. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am faterion pwysig. Felly, efallai y byddwn yn dweud “Byddai pobl ifanc 15 oed yn hoffi pleidleisio yn 16 oed”.
  • Pan fyddwn yn adrodd i Lywodraeth Cymru, rydym yn rhoi gwybod iddi am farn pawb. Er enghraifft, efallai y byddwn yn dweud “Roedd 30 o bob 50 o bobl ifanc yn poeni am fwlio”. Ond ni fyddem byth yn dweud beth yw enwau'r pobl ifanc.
  • Os byddwn yn gofyn am eich enw ar arolwg, byddwn bob amser yn dweud wrthych pam fod angen eich enw arnom cyn i chi ei lenwi. Byddwch bob amser yn gwybod beth fyddwn yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth.

Dywed y gyfraith ein bod yn cael gwneud hyn gan fod gennym fuddiant dilys.

Pan fyddwch yn cymryd rhan yn nigwyddiadau Cymru Ifanc

  • Efallai y bydd angen i ni wybod ble rydych chi'n byw yng Nghymru neu a oes gennych chi unrhyw anableddau neu pa iaith sydd orau gennych chi. Mae angen y wybodaeth hon arnom i roi gwybod i'n cyllidwyr am y gwahanol fathau o bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw. Dydyn ni ddim yn rhoi eich enw i’n cyllidwyr, rydym yn rhoi gwybod iddyn nhw faint o bobl ifanc rydym wedi gweithio gyda nhw. Efallai y byddwn yn dweud “Roedd 5 o’r 20 o bobl ifanc yn dod o orllewin Cymru”.

Dywed y gyfraith ein bod yn cael gwneud hyn gan fod gennym fuddiant dilys.

Sut rydym yn cael eich gwybodaeth bersonol?

Dim ond gwybodaeth bersonol yr ydych chi (neu, os ydych o dan 18, y mae eich rhiant/gofalwr) wedi’i rhoi i ni yn benodol y byddwn yn ei chasglu. Gall hyn ddigwydd pan fyddwch yn gofyn am gael gwybodaeth, yn eistedd ar un o’n rhwydweithiau, yn mynychu neu’n cofrestru ar gyfer hyfforddiant a digwyddiadau neu’n dod yn aelod o Plant yng Nghymru.

Beth ydym yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth?

Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio a’i chadw yn swyddfeydd Plant yng Nghymru yng Nghaerdydd neu ei chadw yn ein systemau cyfrifiadurol diogel. Dim ond os ydych chi wedi dweud y gallwn ni a dim ond mewn ffordd rydych chi'n gwybod amdani y byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth. Er enghraifft, os ydych wedi gofyn am gael gwybodaeth am ddigwyddiadau cenedlaethol Cymru Ifanc, yna dim ond gwybodaeth am ddigwyddiadau cenedlaethol y byddwn yn ei hanfon atoch, a dim byd arall.

Rydym yn gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel, ei thrin a’i storio’n ddiogel, ac rydym yn gwirio’n rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hyn yn iawn.

Nid ydym byth yn rhannu nac yn gwerthu eich gwybodaeth i gwmnïau marchnata, ond weithiau byddwn yn defnyddio gwasanaethau allanol i anfon gwybodaeth electronig atoch. Y cwmnïau rydym yn eu defnyddio i wneud hyn yw Microsoft, Mailchimp, Constant Contact, Survey Monkey, SnapSurveys ac Eventbrite.

Gallwch ddarllen mwy am sut mae'r cwmnïau hyn yn cadw'ch data'n ddiogel trwy ddilyn y cysylltau.

  1. Microsoft: Rydym yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadura cwmwl i wneud ein gwaith, a ddarperir gan Microsoft. Mae’r data’n cael ei brosesu yn y DU. Gallwch glicio yma i weld ym mha ganolfannau data.
  2. Mailchimp / Constant Contact: Rydym yn defnyddio'r cwmnïau hyn i anfon ein gwybodaeth a marchnata uniongyrchol atoch. Mae hyn yn cynnwys ein briff newyddion polisi a chylchgrawn aelodaeth, hyfforddiant, gwybodaeth am ddigwyddiadau, ymgynghoriadau ac arolygon. Mae pencadlys y ddau yn yr Unol Daleithiau, a dyna lle mae'r data'n cael ei brosesu. Maent wedi'u hardystio o dan ddeddf Preifatrwydd UE-UDA, sydd wedi'i chynllunio i amddiffyn eich data os ydych chi'n byw yn yr UE a bod eich data'n cael ei anfon i'r UDA. Mae polisi preifatrwydd Constant Contact yma. Mae polisi preifatrwydd Mailchimp yma. Mae gwybodaeth am Ddeddf Preifatrwydd UE-UDA ar gael ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
  3. Survey Monkey / SnapSurveys: Weithiau gall Plant yng Nghymru ofyn i chi wneud arolwg. Efallai y byddwn yn gofyn am eich barn am ein gwasanaethau neu fater polisi penodol. Pan fyddwn yn gwneud hynny, efallai y byddwn yn defnyddio SnapSurveys neu Survey Monkey i gasglu eich ymatebion. Mae'r darparwyr hyn yn prosesu eu data yn yr UE ac yn yr UDA. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Survey Monkey yma a pholisi SnapSurvey yma. Mae gwybodaeth am Ddeddf Preifatrwydd UE-UDA ar gael ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
  4. Eventbrite: Rydym yn defnyddio Eventbrite fel llwyfan archebu ar gyfer rhai o’n digwyddiadau a’n cyrsiau hyfforddi. Mae pencadlys Eventbrite yn yr UDA, a dyna lle mae'r data'n cael ei brosesu. Mae Eventbrite wedi'i ardystio o dan ddeddf Preifatrwydd UE-UDA, sydd wedi'i chynllunio i amddiffyn eich data os ydych chi'n byw yn yr UE a bod eich data'n cael ei anfon i'r UDA. Mae gwybodaeth am Ddeddf Preifatrwydd UE-UDA ar gael ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae polisi preifatrwydd Eventbrite yma.

Pa fath o wybodaeth ydyn ni'n ei hanfon?

Mae Plant yng Nghymru yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau a gwybodaeth a chyhyd â bod gennym eich cydsyniad, efallai y byddwn yn darparu gwybodaeth am:

  • Aelodaeth
  • Cynadleddau
  • Digwyddiadau
  • Rhwydweithiau
  • Ymgyngoriadau
  • Arolygon
  • Polisïau
  • Newidiadau i ddeddfwriaethau
  • Ymchwil
  • E-Friffiadau
  • Meysydd gwaith pwnc penodol
  • Gwasanaethau Ymgynghori
  • Offer ac Adnoddau

Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth? 

Os byddwch yn gweithio gyda ni yn rheolaidd, byddwn yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y byddwch yn ymwneud â ni. Mae angen i ni wneud hyn i wneud yn siŵr y gallwn gysylltu â chi ac anfon gwybodaeth atoch am y gweithgareddau a'r digwyddiadau.

Os ydych wedi gofyn am gael unrhyw e-frifiadau neu gyhoeddiadau gan Plant yng Nghymru, yna byddwn yn cadw eich manylion personol hyd nes y byddwch yn dweud wrthym nad ydych yn dymuno cael gwybodaeth mwyach. Mae pob e-bost e-friffio a marchnata yn cynnwys dolen ‘dad-danysgrifio’ a gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw bryd drwy glicio ar y cyswllt yn yr e-bost, neu drwy gysylltu â’n Tîm Cyfathrebu yn uniongyrchol.

Os byddwch yn mynychu digwyddiad unwaith ac yn rhoi eich gwybodaeth i ni, yna byddwn yn cadw'r wybodaeth am flwyddyn ar ôl y digwyddiad. Mae rhai cyllidwyr yn gofyn i ni gadw gwybodaeth am fwy na blwyddyn a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd hynny'n wir. Ar ôl hyn, byddwn yn dileu eich gwybodaeth yn ddiogel.

Ffotograffau – efallai y byddwn yn defnyddio ffotograffau a dynnwyd mewn digwyddiad i helpu i roi cyhoeddusrwydd i’n gwaith neu i hyrwyddo pynciau. Gellir lanlwytho’r ffotograffau hyn i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol allanol, megis Facebook neu Twitter lle mae polisïau preifatrwydd gwahanol yn berthnasol. Rhowch wybod i ni os nad ydych am i ni ddefnyddio ffotograffau sy'n eich cynnwys chi fel hyn.

Ffilmiau – weithiau rydym yn creu ffilmiau i helpu i roi cyhoeddusrwydd i brosiect neu ddigwyddiad, ac weithiau gofynnir i’n gwirfoddolwyr a ydynt yn dymuno ymddangos mewn ffilm at y diben hwn. Gall y ffilmiau hyn gael eu lanlwytho i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol allanol neu i YouTube lle mae polisïau preifatrwydd gwahanol yn berthnasol.

Os ydych wedi talu am wasanaethau neu wedi talu i fynychu hyfforddiant neu ddigwyddiad, rydym yn cadw cofnodion o drafodion ariannol ar ein meddalwedd cyfrifo Xero neu wedi'u storio yn ein cyfrif Microsoft 365 diogel am 6 blynedd. Mae rhai cyllidwyr yn gofyn i ni gadw gwybodaeth am fwy o amser, os oes gennych unrhyw bryderon am hyn rhowch wybod i ni. Ar ôl yr amser hwn, bydd yr holl fanylion ariannol yn cael eu dinistrio'n ddiogel. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn dal i dderbyn gwybodaeth am ein gwasanaethau. O dan yr amgylchiadau hyn, byddwn yn cadw eich gwybodaeth hyd nes y byddwch yn gofyn i ni beidio â gwneud hynny neu hyd nes y bydd ein pwrpas ar gyfer cadw’r wybodaeth hon yn newid.

Ar unrhyw adeg, gallwch ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â Plant yng Nghymru:

E-bost:         caroline.taylor@childreninwales.org.uk (neu, os yw'n fwy cyfleus, siaradwch ag unrhyw aelod o staff)

Ffôn:       029 2034 2434 a gadewch neges unrhyw bryd

Post:          Plant yng Nghymru, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (Sbarc),  Heol Maendy,  Caerdydd  CF24 4HQ

Pan fyddwch yn gofyn i ni ddileu eich gwybodaeth, byddwn yn rhoi gwybod i chi os caiff hyn unrhyw effaith arnoch chi. Er enghraifft; os byddwch yn gofyn i ni ddileu eich gwybodaeth, ond eich bod am fynychu digwyddiad, yna ni fyddech yn gallu bod yn bresennol, oherwydd ni allwn gysylltu â chi. Gallwn drafod hyn gyda chi ar y pryd a gallwch chi benderfynu beth rydych am ei wneud.

A fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw un arall? 

Nid ydym byth yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth i gwmnïau marchnata allanol.

Mae Plant yng Nghymru yn gweithio'n galed i gadw'ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Weithiau efallai y bydd angen i ni argraffu eich gwybodaeth bersonol ar gyfer ein gwaith. Byddwn bob amser yn cadw hyn yn ddiogel.

Pan fyddwn wedi gorffen gyda'r wybodaeth hon, byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei rwygo cyn ei daflu'n ddiogel.

Er eich diogelwch, os ydych wedi dweud wrthym eich bod yn cael eich effeithio gan gam-drin plant yna bydd yn rhaid i ni drosglwyddo'ch gwybodaeth i sefydliad arall. Efallai y bydd angen i ni siarad â'ch arweinydd grŵp lleol, neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Heddlu.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau hyfforddi achrededig, bydd angen i ni eich cofrestru ar gyfer achrediad gydag Agored Cymru. Gwneir hyn trwy borth diogel a gynhelir gan Agored Cymru ac mae'n angenrheidiol ar gyfer y broses achredu. Os hoffech ragor o wybodaeth am sut mae Agored Cymru yn prosesu eich gwybodaeth, ewch i’w gwefan www.agored.cymru.

Gwefan

Bob tro y byddwch yn ymweld â'n gwefan, mae'r wybodaeth ganlynol yn cael ei chasglu'n awtomatig:

  • Dyddiad ac amser yr ymweliad
  • Cyfeiriad IP (sy'n fyr ar gyfer 'Internet Protocol'). Dyma gyfres o rifau sy'n caniatáu i'ch dyfais gyfathrebu dros y rhyngrwyd.
  • Y math o borwr a ddefnyddir (rhaglen feddalwedd yw porwr a ddefnyddiwch i weld ein gwefan; e.e. Google)
  • Y tudalennau yr ymwelwyd â hwy
  • Pa eitemau sy'n cael eu lawrlwytho

Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau yn casglu'r wybodaeth hon ac fe'i defnyddir i weld pa dudalennau sydd fwyaf poblogaidd ac i ddatrys unrhyw broblemau gyda'n gweinydd.

Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, rydym yn sicrhau bod eich ymweliad yn aros yn ddienw. Nid ydym yn cysylltu unrhyw ran o'r wybodaeth a gesglir gyda'ch gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gwybod enwau’r bobl sy’n defnyddio ein gwefan.

Cofiwch, os ydych chi'n llenwi ffurflen ar-lein, neu'n gofyn cwestiwn i ni trwy'r wefan, yna rydych chi'n rhoi gwybodaeth benodol i ni. Bydd yn rhaid i ni storio'r wybodaeth hon fel y gallwn roi'r ateb neu'r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano yn y ffurflen ar-lein. Felly, os gofynnwch gwestiwn i ni ar-lein, bydd angen eich cyfeiriad e-bost a'ch enw arnom. Byddwn ond yn defnyddio eich data personol at y dibenion y gwnaethoch ei ddarparu.

Mae ein gwefan yn aml yn cynnwys cysylltau i wefannau eraill. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros wefannau eraill ac ni allwn fod yn gyfrifol am eu cynnwys. Ni fydd pob gwefan yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen eu Polisïau Preifatrwydd eu hunain cyn defnyddio eu gwefan.

Polisi Cwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy'n cael eu rhoi ar eich dyfais pan fyddwch chi'n ymweld â gwefan. Maent fel arfer yn casglu ac yn storio'r wybodaeth a ddarperir gennych. Er enghraifft, efallai bod eich cyfrinair neu'ch cyfeiriad eisoes wedi'u teipio gan fod y cwcis ar y wefan honno'n eu cofio.

Mae Plant yng Nghymru yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. Cliciwch yma i weld ein polisi cwcis.

Cyfryngau Cymdeithasol

Nid yw Plant yng Nghymru yn casglu, storio nac yn paru cysylltau i wybodaeth bersonol oni bai eich bod wedi rhoi eich cydsyniad. Mae hyn yn golygu na fyddwn byth yn ceisio paru eich enw X/Twitter â’ch gwybodaeth bersonol, oni bai eich bod wedi gofyn i ni eu storio gyda'i gilydd.

Gall unrhyw bostiadau cyfryngau cymdeithasol neu sylwadau a anfonwch atom gael eu rhannu neu eu hail-drydar yn gyhoeddus (e.e, trwy Facebook/Twitter). Os cytunir arno ymlaen llaw, weithiau byddwn yn hyrwyddo enwau Twitter siaradwyr yn ein digwyddiadau, fel y gall cynrychiolwyr eu tagio neu anfon neges atynt yn ystod y dydd.

Nid yw Plant yng Nghymru yn gyfrifol am sut mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio ac yn storio eich gwybodaeth bersonol. Mae bob amser yn well darllen Telerau ac Amodau a Pholisïau Preifatrwydd pob platfform cyn i chi eu defnyddio. Trwy wneud hyn, rydych chi'n gwybod beth sy'n digwydd i'ch gwybodaeth bersonol. Gallwch weld Polisïau X/Twitter a Facebook yma:

  • Cliciwch yma i weld Polisi Preifatrwydd Twitter
  • Cliciwch yma i weld Polisi Preifatrwydd Facebook
  • Cliciwch yma i weld Polisi Preifatrwydd Instagram

Cyfarfodydd a digwyddiadau ‘rhithwir’ ar-lein

Gall rhai o ddigwyddiadau a chyfarfodydd Plant yng Nghymru gael eu cynnal ar-lein gan ddefnyddio llwyfannau fel Zoom, Skype neu Microsoft Teams. Nid yw Plant yng Nghymru yn gyfrifol am Delerau ac Amodau Defnyddio a Pholisïau Preifatrwydd y llwyfannau hyn ac rydym yn cynghori eich bod yn darllen Polisïau Preifatrwydd y cwmnïau hyn cyn eu defnyddio. Dyma rai o'r llwyfannau cyffredin:

  • Cliciwch yma i weld Polisi Preifatrwydd Zoom
  • Cliciwch yma i weld Polisi Preifatrwydd Microsoft Teams

Trafodion ariannol

Gan fod taliadau ar gyfer cyrsiau hyfforddi a chynadleddau yn cael eu gwneud i Plant yng Nghymru drwy Paypal neu GoCardless neu BACS (Bankers’ Automated Clearing Services), nid ydym yn casglu nac yn storio manylion cardiau.

  • Cliciwch yma i weld Polisi Preifatrwydd Paypal
  • Cliciwch yma i weld Polisi Preifatrwydd GoCardless
  • Cliciwch yma i weld Polisi Preifatrwydd BACS

Rydym yn cadw cofnodion o drafodion ariannol ar ein meddalwedd cyfrifo Xero neu wedi'u storio yn ein cyfrif Microsoft 365 diogel am 6 blynedd.

Rhoddion         

Os byddwch yn gwneud rhodd ariannol i Plant yng Nghymru, dim ond er mwyn gweinyddu eich rhodd y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol. Ni fyddwn yn cysylltu â chi oni bai eich bod wedi gofyn i ni wneud hynny ac ni fyddwn byth yn rhannu nac yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol neu roddion. Cesglir rhoddion trwy Whitefuse a gwneir taliadau trwy Paypal neu GoCardless.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth rhodd am 6 blynedd. Os, ar ôl yr amser hwn, nad oes gennych unrhyw gysylltiad pellach â Plant yng Nghymru, byddwn yn dileu eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel.

Beth yw eich hawliau? 

O dan y deddfau sy’n caniatáu i ni gasglu a storio eich gwybodaeth bersonol, mae gennych chi nifer o hawliau. Mae’r cyfreithiau a’r hawliau hyn yn gymhleth, felly dim ond y rhai sy’n berthnasol i chi rydym wedi’u cynnwys.

Mae gennych hawl i weld eich gwybodaeth bersonol

  • Mae gennych hawl i ofyn i Plant yng Nghymru a ydym yn storio eich gwybodaeth bersonol
  • Os ydym yn storio eich gwybodaeth, mae gennych yr hawl i weld hyn. Os byddwch yn gofyn i ni, byddwn yn rhoi copi o'ch gwybodaeth bersonol i chi. Mae hwn yn rhad ac am ddim.

Mae gennych yr hawl i gywiro eich gwybodaeth bersonol

  • Os credwch fod y wybodaeth rydym yn ei storio amdanoch yn anghywir, yna mae gennych yr hawl i ofyn i Plant yng Nghymru ei newid.

Mae gennych yr hawl i gael eich anghofio

Mae hyn yn golygu y gallwch ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol.

  • Gallwch wneud hyn os nad ydym yn dilyn rheolau'r gyfraith.
  • Gallwch wneud hyn os credwch nad oes angen eich gwybodaeth arnom mwyach.
  • Gallwch wneud hyn os nad ydych am gymryd rhan yn Cymru Ifanc neu Plant yng Nghymru mwyach.

Os yw’r uchod yn berthnasol, rhaid i Plant yng Nghymru ddileu eich gwybodaeth bersonol.

Eich hawl i gludadwyedd data

  • Mae hyn yn golygu bod gennych yr hawl i ofyn i ni roi copi electronig o'ch gwybodaeth bersonol i chi. Gallwn wneud hyn trwy ei anfon i'ch dyfais neu anfon e-bost atoch.

Eich hawl i wrthwynebu

  • Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol os ydym yn ei defnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
  • Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu i ni ddefnyddio eich data personol os yw’n effeithio arnoch mewn unrhyw ffordd.

Lle bo hyn yn berthnasol, mae gennych yr hawl i ofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich gwybodaeth bersonol. Cofiwch, gallwch roi'r gorau i gael gwybodaeth gan Plant yng Nghymru ar unrhyw adeg. Cliciwch y cyswllt ‘dad-danysgrifio’ ar unrhyw wybodaeth electronig rydych wedi ei chael, neu cysylltwch â'n Tîm Cyfathrebu yn info@childreninwales.org.uk.

Sylwch, os byddwch yn dad-danysgrifio trwy'r cyswllt e-bost, byddwch yn dad-danysgrifio i bopeth. Fel arall, gallwch newid eich dewisiadau unrhyw bryd. Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis pa wybodaeth yr hoffech ei chael. Cliciwch yma neu cysylltwch â Plant yng Nghymru i newid eich dewisiadau.

Mae gennych yr hawl i gyfyngu ar brosesu

  • Mae hyn yn golygu bod gennych yr hawl i ofyn i ni roi’r gorau i gasglu a storio eich gwybodaeth bersonol. Os felly, yna mae'n rhaid i ni gadw'ch enw a'ch cyfeiriad a chadw nodyn eich bod wedi gofyn i ni roi'r gorau i gasglu gwybodaeth.

Mae gennych yr hawl i dynnu cydsyniad yn ôl

  • Mae hyn yn golygu, os ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol oherwydd eich bod wedi cytuno (rhoi eich cydsyniad) i hyn, gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.
  • I dynnu eich cydsyniad yn ôl, cysylltwch â ni:

Plant yng Nghymru

E-bost:         info@childreninwales.org.uk  

Ffôn:       029 2034 2434 a gadewch neges unrhyw bryd

Post:          Plant yng Nghymru, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (Sbarc), Heol Maendy,  Caerdydd  CF24 4HQ

  • Neu dad-danysgrifiwch i'r e-bost marchnata nad ydych am ei gael mwyach trwy glicio ar y cyswllt ar waelod yr e-bost hwnnw.
  • Gallwch hefyd newid eich dewisiadau i leihau'r math o wybodaeth a gewch.

Unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i ni, byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’ch gwybodaeth am y rheswm y gwnaethoch gytuno iddo’n wreiddiol. Sylwch, yn dibynnu ar ein seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth, efallai y byddwn yn dal i brosesu eich data at wahanol ddibenion.

Os ydych am ddefnyddio unrhyw un o’ch hawliau, cysylltwch â Plant yng Nghymru. Gallwch wneud hyn drwy’r post, dros y ffôn neu os ydych yn rhan o Cymru Ifanc, drwy siarad ag aelod o staff Cymru Ifanc. Byddwn yn ymateb i chi cyn gynted â phosibl, ond bob amser o fewn 28 diwrnod.

I ddarllen rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) – www.ico.org.uk/. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn sicrhau bod Plant yng Nghymru yn dilyn rheolau’r gyfraith pan fyddwn yn casglu ac yn storio eich gwybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gofynnwch i ni. Rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau. Manylion cyswllt Plant yng Nghymru:

E-bost:       caroline.taylor@childreninwales.org.uk  

Ffôn:           029 2034 2434 

Post:           Plant yng Nghymru, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (Sbarc), Heol Maendy,  Caerdydd  CF24 4HQ

Os ydych am gwyno am sut rydym wedi defnyddio eich gwybodaeth bersonol, mae ein Gweithdrefn Gwyno, Canmoliaeth ac Awgrymiadau i’w gweld ar ein gwefan. Cliciwch yma i'w gweld.  Gallwch hefyd gysylltu â swyddfa Plant yng Nghymru yn uniongyrchol drwy e-bostio complaint.compliment@childreninwales.org.uk.

Rhoi Gwybod am Newidiadau

Os byddwn yn gwneud newidiadau pwysig i’n Polisi Preifatrwydd, neu os byddwn yn newid y ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn cysylltu â chi ac yn postio’r rhain ar hafan ein gwefan.

Byddwn bob amser yn gweithio i fod yn glir ac yn agored gyda chi fel eich bod yn deall ar gyfer beth y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Mae ein Polisi Preifatrwydd yn cael ei wirio’n rheolaidd. Gwiriwyd ddiwethaf Awst 2024.