Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREYN)

Cysylltwch

Anna Westall, Uwch Swyddog Polisi

anna.westall@childreninwales.org.uk

Jacky Tyrie, Cyfarwyddwr Rhaglen MA Astudiaethau Plentyndod ac Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar

j.tyrie@swansea.ac.uk

Aelodaeth grŵp

Gall unrhyw weithiwr proffesiynol sydd â diddordeb mewn hawliau plant ddod yn aelod. Mae aelodaeth am gyhyd ag y mae gan yr aelod ddiddordeb. Gofynnir i bob aelod ysgrifennu ‘Penbortread’ byr i’w rannu ar-lein.

Er mwyn lleihau maint y cyfarfodydd, bydd thema i'r rhan fwyaf o gyfarfodydd fel y gall aelodau fynychu'r cyfarfodydd hynny y maent yn eu hystyried yn berthnasol.

Mae Plant yng Nghymru yn cydlynu ac yn hwyluso'r Rhwydwaith hwn ar y cyd ag Ysgol Addysg, Prifysgol Abertawe

CREYN Poster Welsh.png

Rydym yn falch o roi cyngor fel rhan o'n dull Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0–5 oed yng Nghymru; Mae nifer o daflenni wedi'u datblygu sy'n cynnwys:

  • Beth yw hawliau plant,
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
  • Sut i gefnogi hawliau babanod a phlant ifanc o 0-5 oed

Mae'r daflen A3 wedi cael ei datblygu ar gyfer ymarferwyr ac mae'r pedair taflen A4 wedi cael eu datblygu ar gyfer rhieni. Mae'r ddwy set yn cwmpasu Dyma fi! (0-12 mis) Rwy'n archwilio! (1-2 oed) Edrychwch arna i nawr! (2-3 oed) a Gwyliwch fi'n mynd, dyma fi'n dod! (3-5 mlwydd oed).

Diweddariadau