Adnoddau Blynyddoedd Cynnar

Mae gan bob plentyn hawl i leisio eu barn ac i fobl wrando arnynt

(Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn - CCUHP)

Sefydlwyd ers meitin y dylai pob plentyn gael gwrandawiad, ond gall gwneud hynny’n ymarferol fod yn heriol, yn enwedig yn y Blynyddoedd Cynnar.

Mae poster Hawliau yn y Blynyddoedd Cynnar yn rhoi trosolwg o’r elfennau allweddol sydd eu hangen i ddarparu amgylchedd cadarnhaol sy’n seiliedig ar hawliau, ac mae gwrando yn allweddol yn ogystal â pherthnasoedd cadarnhaol ac amgylchedd diogel ac anogol.

Mae gwrando’n golygu cael hyd i ffyrdd o gyfathrebu a chanfod cyfleoedd, technegau a dulliau i blant fynegi eu barn.

Ariannodd Llywodraeth Cymru brosiect ar raddfa fach i ganiatáu i Plant yng Nghymru ymchwilio a chael hyd i ffyrdd o wrando ar fabanod a phlant ifanc iawn, a threialu rhai dulliau gweithredu gyda’r canlynol:

Mae’r fideos a’r adnoddau hyfforddi isod yn rhoi trosolwg o’r prosiect ac yn fan cychwyn ar gyfer cefnogi’r broses o glywed llais babanod a phlant ifanc iawn.​​​​​​​

Adnoddau Fideos

Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu ystod ehangach o adnoddau, yn cwmpasu rhagor o erthyglau CCUHP a sut gallwn ni gefnogi hawliau yn y tri chategori oed penodol.

Yn unol â’r cwricwlwm newydd nas cynhelir, mae’r adnoddau canlynol yn creu cysylltiadau penodol ac yn cefnogi dealltwriaeth ymarferwyr.

Cewch ragor o wybodaeth ac adnoddau ar y pwnc hwn, ynghyd â phosteri gwych fydd yn ennyn trafodaeth, yn: www.voicebirthtoseven.co.uk
 
Edrychwch Pwy sy’n Siarad: Canfod Lleisiau Plant o’u Geni hyd at Saith Oed

Maen nhw’n cynnwys: Llais; Democratiaeth; Diwylliant; Gwrando â Phwrpas; Gofod a Lle; Sgiliau ac Offer; Galluogi a Meithrin Capasiti.

“clywed lleisiau o’u geni”

“perthnasoedd yw’r elfen allweddol”

“Mae lleisiau’n dod ynghyd mewn gwahanol ffyrdd”

“Cyfle i newid cwrs bywyd plentyn”

 

Cefnogi Hawliau Digidol yn y Blynyddoedd Cynnar

Yn y byd digidol sy’n tyfu’n barhaus, mae angen i ni sicrhau bod hawliau pob plentyn, hyd yn oed yr ifancaf, yn cael eu parchu, eu diogelu a’u cyflawni yn yr amgylchedd digidol.

Os hoffech chi wybod mwy am y prosiect hwn neu Hawliau yn y Blynyddoedd Cynnar, cysylltwch ag Anna Westall, Uwch Swyddog Polisi anna.westall@childreninwales.org.uk

 

Ariannir yr adnoddau hyn gan Lywodraeth Cymru. Barn yr awdur a fynegir yn yr adnoddau hyn, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn yr ariannwr

Adnoddau