Fforwm Gweithwyr Proffesiynol ‘Rhieni Cyswllt Cymru’

Cysylltwch

Fatiha Ali, Swyddog Datblygu

Mae’r Fforwm Gweithwyr Proffesiynol hwn wedi’i sefydlu yn 2023 gan ‘Parents Connect Wales’. Y nod yw cynnwys pawb sy'n gweithio yn y maes hwn i ddatblygu'r prosiect mewn ffordd gydweithredol.

Aelodaeth

Mae aelodaeth o’r fforwm hwn yn agored i unigolion, sefydliadau allweddol ac asiantaethau ar draws pob sector sy’n gweithio gyda rhieni yng Nghymru i hyrwyddo llais a chyfranogiad rhieni.

Pwrpas y fforwm

  • Creu rhwydwaith cefnogol ar gyfer sefydliadau arweiniol sy’n gweithio i hyrwyddo llais a chyfranogiad rhieni yng Nghymru.  
  • Cynnal cyfarfodydd chwarterol i ddatblygu Fforwm cynaliadwy.  
  • Rhannu arbenigedd, profiadau ac arfer gorau   
  • Cyfrannu at dyfu ac adeiladu llais a chyfranogiad rhieni yng Nghymru  
  • Arwain a chefnogi prosiect Cyswllt Rhieni Cymru yn ôl yr angen. 

Manteision ymuno â'r Fforwm

  • Diweddariadau rheolaidd gan Gyswllt Rhieni Cymru    

  • Mynediad at hyfforddiant i hybu cyfranogiad a llais rhieni, gan gynnwys CCUHP a diogelu.  

  • Ymchwil, gwybodaeth ac adnoddau cyfoes i rieni a gweithwyr proffesiynol    

  • Cyfleoedd i ymgysylltu ag ymgynghoriadau a phrosiectau Llywodraeth Cymru  

  • Ymunwch â thros 110 o aelodau presennol y fforwm o bob rhan o Gymru ac ar draws pob sector  

Sut gallwch chi gymryd rhan? 

  • Ymunwch â'n Fforwm ac ymrwymo i fynychu ein cyfarfodydd chwarterol  
  • Dod yn gynrychiolydd allweddol ar gyfer un o awdurdodau lleol Cymru a chymryd rôl arweiniol yn y maes hwn 
  • Gweithredu fel y sefydliad cyswllt a chyfryngwr rhwng Cyswllt Rhieni Cymru a rhieni  
  • Lledaenu gwybodaeth mewn ardaloedd lleol a darparu cysylltiadau â rhieni a grwpiau rhieni.  

Gallwch ddefnyddio'r ddolen hon i gael mynediad i'r ffurflen gofrestru i ymuno â'n Fforwm Gweithwyr Proffesiynol.

Ffurflen gofrestru

Gellir cyrchu'r ffurflen hon hefyd gan ddefnyddio'r cod QR isod.

image-20240621132553-1.png