Caerffili

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Caerffili (GGD)

Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) ddarparu gwybodaeth am ystod o wasanaethau yn eich ardal.

Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf i’r holl blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol er mwyn cael gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch plant neu deuluoedd plant, rhwng 0 a 25 oed.

P’un a ydych chi’n ceisio trefnu gofal plant, eisiau gwybod mwy am addysg blynyddoedd cynnar a gweithgareddau ar ôl ysgol yn eich ardal, neu’n syml eisiau ychydig o gymorth ychwanegol i fod yn rhiant da, mae digon o help ar gael.

Iachach Gyda'n Gilydd

Mae’r adnoddau ar wefan Iachach Gyda’n Gilydd Aneurin Bevan wedi’u datblygu mewn partneriaeth rhwng rhieni a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac maent yn seiliedig ar waith arloesol Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Wessex.

Byddwch yn dod o hyd i wybodaeth glir am salwch cyffredin plentyndod, ble i geisio cymorth os oes angen, beth ddylech chi ei wneud i gadw'ch plentyn yn gyfforddus a pha mor hir y mae symptomau eich plentyn yn debygol o bara.

Rhwydwaith Rhieni

Mae'r Rhwydwaith Rhieni yn sefydliad aelodaeth rhad ac am ddim a sefydlwyd gyda rhieni i rieni. Ffurfiwyd y rhwydwaith yn 2000 o ganlyniad i ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Rwydwaith Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Caerffili. Anogwyd rhieni, neiniau a theidiau a gofalwyr o bob rhan o'r fwrdeistref i gymryd rhan a rhannu eu syniadau.

Mae'r Rhwydwaith yn darparu ffyrdd o ddod â rhieni at ei gilydd a'u cynnwys wrth roi eu barn a dylanwadu ar wasanaethau i blant a theuluoedd ar draws y fwrdeistref.