Sir Fynwy

Hyb Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir Fynwy

Mae Hyb Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir Fynwy’n Sir Fynwy’n rhoi cymorth a gwybodaeth ar amrywiaeth o feysydd gan gynnwys cyllid ar gyfer Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen, Y Cynnig Gofal Plantdarpariaeth gofal plant ar draws y sir, cymorth a hyfforddiant ar gyfer Darparwyr Gofal Plant a llawer mwy. Am fanylion ar unrhyw un o’n gwasanaethau, cliciwch ar un o’r dolenni isod neu cysylltwch â’r tîm ar:

Rhif ffôn: 01633 644527

 

Iachach Gyda'n Gilydd

Gall fod yn hynod o straen pan fydd eich plentyn yn sâl. Gwyddom fod llawer iawn o wybodaeth ar gael ar flaenau eich bysedd, ond nid yw bob amser yn hawdd dod o hyd i rywbeth sy'n darparu gwybodaeth leol glir a chywir!

Mae’r adnoddau ar wefan Iachach Gyda’n Gilydd Aneurin Bevan wedi’u datblygu mewn partneriaeth rhwng rhieni a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac maent yn seiliedig ar waith arloesol Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Wessex. Byddwch yn dod o hyd i wybodaeth glir am salwch cyffredin plentyndod, gan gynnwys cyngor ar ba arwyddion 'baner goch' i gadw llygad amdanynt, ble i gael cymorth os oes angen, beth ddylech chi ei wneud i gadw'ch plentyn yn gyfforddus a pha mor hir y mae symptomau eich plentyn yn debygol i bara.