Torfaen

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen (GGD)

Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) ddarparu gwybodaeth am ystod o wasanaethau yn eich ardal.

Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf i’r holl blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol er mwyn cael gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch plant neu deuluoedd plant, rhwng 0 a 25 oed.

P’un a ydych chi’n ceisio trefnu gofal plant, eisiau gwybod mwy am addysg blynyddoedd cynnar a gweithgareddau ar ôl ysgol yn eich ardal, neu’n syml eisiau ychydig o gymorth ychwanegol i fod yn rhiant da, mae digon o help ar gael.

 

Rhaglenni Magu Plant Torfaen

Ystod o raglenni rhianta ar gael yn Nhorfaen.

 

I Dadau, Gan Dadau

Gall tadau newydd a darpar dadau yn Nhorfaen gofrestru ar gyfer rhaglen newydd sy'n anelu at gefnogi tadau ar eu taith newydd o fod yn rhiant.

Mae’r rhaglen 10 wythnos Ar Gyfer Tadau, Gan Dadau yn cael ei rhedeg gan Datblygu Chwaraeon Torfaen ac mae’n ymdrin ag ystod o bynciau fel cymorth cyntaf plant, iechyd a lles, maeth a magu plant.

 

Iachach Gyda'n Gilydd

Mae’r adnoddau ar wefan Iachach Gyda’n Gilydd Aneurin Bevan wedi’u datblygu mewn partneriaeth rhwng rhieni a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac maent yn seiliedig ar waith arloesol Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Wessex.

Byddwch yn dod o hyd i wybodaeth glir am salwch cyffredin plentyndod, ble i geisio cymorth os oes angen, beth ddylech chi ei wneud i gadw'ch plentyn yn gyfforddus a pha mor hir y mae symptomau eich plentyn yn debygol o bara.