Mae’r prosiect yma’n cael ei ariannu gan y Gronfa Gwybodaeth Gymunedol drwy ein partneriaid, sef Sefydliad Young ac Ymchwil ac Arloesi y Deyrnas Unedig (UKRI). Byddwn hefyd yn gweithio gydag Egin drwy gydol y prosiect ac rydyn ni am ddiolch i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth.
Mae dau gam wedi bod i’r prosiect yma. Yn ystod y cam cyntaf, dewisodd y bobl ifanc y cwestiwn ymchwil ‘Pa bethau sy’n rhwystro pobl rhag bod yn ecogyfeillgar yn ôl cost, oedran, diwylliant, a’r ardal o Gymru mae pobl yn byw ynddi?’. Fe wnaethon ni ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w helpu i ddod yn gyfoedion ymchwil. Fe wnaethon nhw gytuno ar gwestiynau ar gyfer arolwg a grwpiau ffocws ar gyfer eu cyfoedion.
Yn yr ail gam, rydyn ni’n cyflawni’r cynllun yma. Rydyn ni wedi rhyddhau’r arolwg a bydd y bobl ifanc yn dadansoddi hyn eu hunain, gyda chefnogaeth Plant yng Nghymru. Byddan nhw hefyd yn cyd-hwyluso eu grwpiau ffocws eu hunain mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid i ateb eu cwestiwn ymchwil yn fanylach.
Yna byddwn yn rhyddhau ein canfyddiadau i'r cyhoedd drwy adroddiad a fydd yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda'r bobl ifanc.