Cynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector

Cysylltwch

Karen McFarlane, Uwch Swyddog Polisi

karen.mcfarlane@childreninwales.org.uk

TSANA.png

Clymblaid o gyrff trydydd sector yw TSANA, sy’n gweithio gydag ystod eang o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn eu cefnogi ac yn eu cynrychioli. Caiff y Gynghrair hon ei hwyluso gan Plant yng Nghymru.

Mae TSANA o’r farn y dylai pob plentyn a pherson ifanc, beth bynnag yw eu galluoedd, eu hanghenion addysgol neu eu hamgylchiadau, fedru gwireddu eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Rydyn ni’n credu mewn addysg sy’n deg ac yn gyfartal, ac rydyn ni’n gweithio i wella’r canlyniadau a’r cyfleoedd addysg a hyfforddiant i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu grymuso, eu parchu a’u cynrychioli.

Nodau

  • Hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn arbennig yng nghyswllt plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

  • Hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CHPA)
  • Sicrhau bod y Llywodraeth ar lefel leol a chenedlaethol yn parchu, yn adlewyrchu ac yn ymdrin ag anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
  • Darparu fforwm i gefnogi datblygu polisi a llais unedig ar faterion allweddol sy’n ymwneud â systemau statudol yng Nghymru
  • Hybu gweithio mewn partneriaeth ar draws cyrff trydydd sector sy’n cefnogi a chynrychioli plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

 

Aelodaeth

Mae aelodaeth yn agored i unrhyw sefydliad yn y trydydd sector sydd â diddordeb gwaith mewn plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Aelodau Cyfredol

  • Plant yng Nghymru
  • Cymdeithas Syndrom Down
  • Cŵn Tywys Cymru
  • Mudiad Meithrin
  • Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
  • Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar
  • Natspec
  • RNIB Cymru
  • SNAP Cymru