Diogelu: Cofnod o bryder

Ein Person Diogelu Dynodedig yw Claire Sharp.

Os ydych yn gwneud gwaith ar ran Plant yng Nghymru a bod gennych bryder diogelu, dilynwch y polisi a’r gweithdrefnau Diogelu sefydliadol sydd i’w gweld yma.

Os oes gennych bryder bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o gael ei gam-drin, dylech gysylltu â’r Heddlu ar unwaith. Yna dylech lenwi ffurflen Cofnod o Bryder i gofnodi’r digwyddiad a’i hanfon at safeguarding@childreninwales.org.uk

Bydd eich ffurflen yn cael ei hanfon ymlaen yn awtomatig at Claire Sharp. Ar gyfer unrhyw bryderon diogelu eraill nad ydynt ar unwaith, ni waeth pa mor fach ydynt, dylech hefyd lenwi ffurflen Cofnod o Bryder a’i hanfon at yr un e-bost gan y gallai hyn helpu i benderfynu a oes angen darparu unrhyw gymorth neu gamau gweithredu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon neu os nad ydych yn siŵr pa gamau i’w cymryd, cysylltwch â Claire yn diogelu@plantyngnghymru.org.uk neu drwy ffonio 07494208637.

Os ydych chi eisiau deall mwy am ddiogelu plant ac oedolion ‘mewn perygl’ yng Nghymru, yna lawrlwythwch ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar eich dyfais a bydd gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar flaenau eich bysedd. https://www.diogelu.cymru , gallwch hefyd lawrlwytho’r ap i’ch ffôn symudol.