Mae Plant yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant Diogelu yn unol â’r Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol sydd ar gael gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae'r rhain yn cynnwys; hanner diwrnod Grŵp A, 1 diwrnod Grŵp B Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Perygl, a 2 ddiwrnod o hyfforddiant Arweinydd Diogelu Penodedig Grŵp C.
Mae ein cyrsiau'n cynnwys gwybodaeth berthnasol i fodloni'r canlyniadau dysgu a amlinellir yn y Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu ar gyfer ymarferwyr.
Mae gan ein holl hyfforddwyr brofiad sylweddol o gymhwyso diogelu plant yn ymarferol ar draws gwahanol rolau ac asiantaethau o fewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Atodiad 1: canllawiau ar gyfer penodi hyfforddwyr | Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae ein cynnwys hyfforddiant yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil ac ymarfer. Rydym yn cymhwyso safonau monitro a gwerthuso cadarn i'n holl waith.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod pa gwrs fyddai’n gweddu orau i’ch anghenion neu os hoffech archebu cwrs ar gyfer eich grŵp staff, cysylltwch â training@childreninwales.org.uk.