Yn y weminar hon, clywodd cynrychiolwyr gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol o’r trydydd sector, y sector iechyd a’r sector statudol ynghylch sut mae anghenion rhieni a theuluoedd yn cael eu cefnogi yn y byd modern hwn.
Darparodd Anna Westall o Plant yng Nghymru grynodeb o’r rôl bwysig y mae rhieni’n ei chwarae wrth gefnogi ac amddiffyn hawliau plant, ac yna Sefydliad Nuffield a gyflwynodd ganfyddiadau eu cyhoeddiad diweddar, Time for Parents. Yna bu Kim Jones o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn trafod iechyd meddwl tadau yn y cyfnod amenedigol, a daeth y gweminar i ben gyda Gareth Rossiter a Tania Hayward, a gyflwynodd ar y gwaith y mae eu Dads Workers yn ei ddarparu ar draws bwrdeistref Blaenau Gwent.