Yn y weminar hon, clywodd y cynrychiolwyr ganfyddiadau allweddol o 5ed Adroddiad Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd Blynyddol Plant yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn rhannu profiadau a barn ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda dros 33,000 o deuluoedd ledled Cymru ac, yn bwysig, yn clywed lleisiau a phrofiadau plant a phobl ifanc eu hunain.
Plant yng Nghymru | Lansio Adroddiad Arolwg Tlodi Plant Blynyddol Plant yng Nghymru
Mae canfyddiadau'r arolygon yn llwm ac yn annerbyniol. Mae canfyddiadau'r arolwg ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol yn dangos cynnydd mewn dyled; cynnydd yn nifer y plant a theuluoedd sy'n cael trafferth emosiynol; a chynnydd yn nifer y plant sy'n newynu. Adleisiwyd y canfyddiadau hyn yn yr ymatebion gan y plant a'r bobl ifanc eu hunain. Roedd themâu amlycaf eu harolwg yn codi materion o iechyd emosiynol gwael, teimladau o ynysu, iselder, gorbryder a bwlio cysylltiedig â thlodi.
Rhoddodd y gweminar well dealltwriaeth i’r cyfranogwyr o’r materion dyddiol y mae llawer o blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu a’r effaith a gaiff hyn.
Siaradwr:
Karen McFarlane, Swyddog Polisi: Tlodi a Phlant Agored i Niwed, Plant yng Nghymru ac awdur yr adroddiad