Gweminar Tlodi a Dysgu Cynnar Plant

Ar gyfer y weminar hon, bu Plant yng Nghymru yn gweithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr o Achub y Plant y DU a Chymru, a roddodd drosolwg o’u dulliau o fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y mae plant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu.

Trafododd Achub y Plant eu Fframwaith Blynyddoedd Cynnar, tystiolaeth y DU a mewnwelediad uniongyrchol o’u gwaith yng Nghymru, gan ddangos fod lleisiau plant a theuluoedd yn allweddol i’w henghreifftiau o arfer gorau, cydgynllunio ac arloesi.  Maent yn gweithio i sicrhau gostyngiad cynaliadwy yn nifer y plant sy’n cael eu magu mewn tlodi, ac i gau’r bwlch dysgu cynnar rhwng plant sy’n cael eu magu mewn tlodi a’u cyfoedion mwy cefnog.

Achub y Plant yn credu bod hyn yn bosibl os yw mwy o blant yn cael diwallu eu hanghenion sylfaenol, ac yn cael cymorth sy’n eu galluogi i chwarae, dysgu a chyrraedd eu llawn botensial.

Siaradwyr:

Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru

Tracy Jackson, Pennaeth y Blynyddoedd Cynnar, Achub y Plant y DU


“Gwych i rannu gwybodaeth a bod yn rhan o’r ffrwd gyfunol hon o drechu tlodi a chefnogi teuluoedd a’r blynyddoedd cynnar”