Byrddau a grwpiau gwirfoddolwyr

Cymryd rhan yn ein Byrddau a'n Grwpiau

Mae tîm Cymru Ifanc yn gweithio’n galed i greu cyfleoedd gwych i bobl ifanc gymryd rhan ynddyn nhw, drwy gydol y flwyddyn. Mae ganddon ni amrywiaeth o grwpiau a byrddau sy’n cwrdd bob deufis i weithio ar brosiectau cyffrous, ac maen nhw’n cynnwys pobl ifanc o bob rhan o Gymru. Dyma rai enghreifftiau o beth allech chi fod yn ei wneud fel gwirfoddolwr Cymru Ifanc.

Lawrlwythwch y Cylch Gorchwyl Yma.

Dyma olwg cyflym ar bob grŵp:

Bwrdd Ymgynghorol Gofalwyr Ifanc

Mae’r Grŵp Ymgynghorol Gofalwyr Ifanc yn grŵp ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed sydd â phrofiad bywyd o fod yn ofalwr ifanc, i drafod a rhannu eu profiadau gyda gofalwyr ifanc eraill. Mae eiriol dros hawliau gofalwyr ifanc, eu hanghenion a’u llesiant yn allweddol i waith y grŵp yma – rydyn ni eisiau darparu man diogel lle gallwch chi rannu eich profiadau fel Gofalwr Ifanc a theimlo eich bod yn cael eich deall.

Bwrdd Ymgynghorol Iechyd Meddwl a Llesiant Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol (NYSG)

Mae Grŵp Iechyd Meddwl a Llesiant Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol (NYSG) yn lle diogel i bobl ifanc 11-25 oed drafod eu profiadau o ran gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Gallwch chi fod yn rhan o hyn os oes gennych chi brofiad bywyd yn y maes, neu os oes gennych chi ddiddordeb cyffredinol – plymiwn i mewn gyda’n gilydd a gwneud gwahaniaeth!

Bwrdd Ymgynghorol LHDTC+

Mae ein grŵp LHDTC+ yn cynnig man diogel lle gall pobl ifanc LHDTC+ a’u cefnogwyr drafod pynciau sydd o bwys iddyn nhw, adolygu polisïau ac ymarfer, a chael mewnbwn trwy gyflwyno argymhellion. Gall unrhyw un 11-25 oed sy’n LHDTC+ neu’n cefnogi hawliau LHDTC+ ymuno!

Bwrdd Ymgynghorol Cyfiawnder Cymdeithasol a Newid Hinsawdd

Mae’r Grŵp Cyfiawnder Cymdeithasol a Newid Hinsawdd yn ymwneud â rhoi llais i bobl ifanc 11-25 oed yng Nghymru, a sicrhau bod eich meddyliau ynghylch beth sy’n digwydd yn ein byd yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir. Rydyn ni’n mynd i’r afael â materion mawr fel tegwch, tlodi ac achub ein planed ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Gadewch i ni wneud Cymru’n lle gwell i bawb!

Bwrdd Ymgynghorol Addysg a Hyfforddiant

Mae’r Bwrdd Ymgynghorol Addysg a Hyfforddiant yn lle i bobl ifanc drafod eu haddysg a’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant fydd ar gael yng Nghymru yn y dyfodol. Os ydych chi rhwng 11 ac 15 oed, byddwn ni’n canolbwyntio ar drafod yr ysgol, ac unrhyw heriau gallech chi fod yn eu hwynebu sy’n rhwystro eich addysg. Rydyn ni eisiau gweithio gyda’n gilydd i greu gwell cyfleoedd i bobl ifanc, ac rydyn ni eisiau eich mewnbwn!

Yn achos pobl ifanc sy’n 16 oed a throsodd, rydyn ni’n plymio i’r Gwarant Pobl Ifanc. Ymrwymiad yw hwn mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i gynnig cefnogaeth barhaus i bobl ifanc yng Nghymru, fel eu bod yn cael lle mewn addysg neu hyfforddiant, yn cael hyd i swydd, neu’n dod yn hunangyflogedig. Gadewch i ni drafod y ffordd orau o fanteisio’n llawn ar hyn!

Bwrdd Ymgynghorol Teimlo’n Ddiogel (Ar-lein ac mewn Perthnasoedd)

Diben y Bwrdd Ymgynghorol Teimlo’n Ddiogel (Ar-lein ac mewn Perthnasoedd) yw gwneud i chi deimlo’n gyfforddus a’ch bod yn cael eich parchu, ar-lein ac mewn perthnasoedd. Mae’n bodoli ar gyfer unrhyw un 11-25 oed sydd â diddordeb yn y mater yma. Ein nod mawr? Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cadw’n ddiogel, p’un a ydyn nhw ar-lein neu’n treulio amser gydag eraill.

Sut mae cofrestru?

Rydyn ni’n defnyddio Microsoft Forms i gofrestru ein gwirfoddolwyr Cymru Ifanc, felly os ydych chi am gofrestru fel gwirfoddolwr Cymru Ifanc mae’r ffurflen ar gael isod. Bydd yn cymryd tua 20 munud i’w llenwi. Wedyn, byddwn ni’n cysylltu â chi drwy e-bost i'ch gwahodd i sesiwn sefydlu gwirfoddolwyr newydd ar-lein, a chyfleoedd a digwyddiadau sydd ar y gweill.

Cofrestrwch yma 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os ydych chi eisiau gwybod mwy, neu angen cymorth gyda'r ffurflen gofrestru, cysylltwch â ni drwy e-bostio volunteer@childreninwales.org.uk

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @YoungWalesCIW