Arolygon Tlodi

Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant (ECPN) Cymru, yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd.

Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant (ECPN) Cymru, yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd. Mae ein Harolwg Tlodi Plant a Theuluoedd yn cael ei ateb gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n cydweithio ag o leiaf 110,000 o deuluoedd a’u plant ledled Cymru ac yn fwy diweddar pobl ifanc eu hunain a’u teuluoedd.

Mae canfyddiadau’r arolygon hyn yn ein helpu i nodi a deall mwy am y materion presennol a’r effaith y mae tlodi yn ei chael ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Bydd eich profiadau a'ch safbwyntiau yn ein helpu i nodi a rhannu'r wybodaeth hon yn eang. Mae eich lleisiau wir yn gwneud gwahaniaeth.

Beth bynnag fo'ch rôl neu sector, mae eich profiadau a'ch safbwyntiau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr ac yn bwysig i ni. P’un a ydych yn ymarferwr, yn addysgwr, yn wneuthurwr polisi neu’n rheolwr, os yw eich rôl yn cynnwys cylch gwaith ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd, yna rydym am glywed gennych.

Bob blwyddyn rydym yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y canfyddiadau i ddeall sut maent yn cael eu defnyddio.

Ein nod yw y bydd y canfyddiadau unwaith eto yn helpu i lunio a llywio polisi ac arfer yng Nghymru.

 

Diolch am eich cefnogaeth.