Dogfen y cytunwyd arni’n rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), sy’n cydnabod pwysigrwydd hawliau a rhyddid plant, a bob amser yn rhoi lles pennaf y plentyn gyntaf.
Mae’n rhestr o hawliau sydd gan bob plentyn 0-18 oed, mae cyfanswm o 54 o hawliau, ac maen nhw’n cael eu galw’n ‘Erthyglau’.
Mae Erthyglau 3, 5 a 18 o CCUHP yn cydnabod ac yn cefnogi rhieni a theuluoedd a’u gwaith allweddol yn diogelu plant a gofalu amdanynt.
Mae’n cydnabod bod rhieni/gofalwyr yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod hawliau eu plant yn cael eu cyflawni, gan fod hawliau’n cael eu diogelu yn y teulu’n gyntaf. O ganlyniad, mae’n bwysig bod rhieni/gofalwyr yn deall hawliau plant, a hefyd yn cael eu helpu i sicrhau eu bod yn cael eu gwireddu.
I gael rhagor o wybodaeth am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn:
Lawrlwythwch grynodeb o CCUHP.
Lawrlwythwch boster â symbolau hwylus i blant.
Isod, cewch hyd i daflen a gynhyrchwyd i rieni er mwyn iddyn nhw ddeall yn well bwysigrwydd eu rôl yn hybu hawliau eu plant. Mae yna hefyd ddarluniad a gynhyrchwyd ar y cyd gan wirfoddolwyr Cymru Ifanc, sy’n cyflwyno CCUHP yn eu geiriau eu hunain.
Mae'r daflen A3 wedi cael ei datblygu ar gyfer ymarferwyr ac mae'r pedair taflen A4 wedi cael eu datblygu ar gyfer rhieni. Mae'r ddwy set yn cwmpasu Dyma fi! (0-12 mis) Rwy'n archwilio! (1-2 oed) Edrychwch arna i nawr! (2-3 oed) a Gwyliwch fi'n mynd, dyma fi'n dod! (3-5 mlwydd oed).