Profiad y Rhiant-ofalwr – Wedi'i gyflwyno gan Jolene, Kim ac Andi
Ymwadiad – barn bersonol y cyflwynwyr yw'r safbwyntiau a fynegir yn y podlediadau hyn. Efallai nad ydynt yn adlewyrchu profiadau pawb gydag ysgolion neu unigolion ledled Cymru.
Mae'r gyfres hon yn ymwneud â beth yn union mae bod yn rhiant-ofalwr yn ei olygu, pŵer profiad bywyd, a sut y gall rhieni a gweithwyr proffesiynol gydweithio mewn partneriaeth wirioneddol i greu'r newid rydym am ei weld ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Mae Voices 4 Bettws yn rhaglen hyfforddi dan arweiniad rhieni sy'n seiliedig ar brofiadau go iawn o lywio'r system ADY yng Nghymru. Mae wedi'i gwreiddio mewn cymuned, ymddiriedaeth a'r gred y gall teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, wrth weithio ochr yn ochr, greu canlyniadau gwell i blant.
Yn ystod y penodau hyn, byddwn yn rhannu sgyrsiau gonest, mewnwelediadau ymarferol a'r realiti y tu ôl i bolisïau a phrosesau. Byddwn yn archwilio beth sy'n gweithio, beth nad yw'n gweithio, a beth sydd angen newid fel bod y cymorth yn diwallu anghenion teuluoedd yn wirioneddol lle bynnag y bônt. Mae'r gyfres hon yn ymwneud â gwrando, dysgu ac adeiladu system sy'n rhoi plant yn gyntaf.
Os oes angen cymorth arnoch fel rhiant/gofalwr, ewch i: -