Yr Hyfforddiant

Yr hyn mae'r hyfforddiant yn ei gwmpasu

Mae'r hyfforddiant yn cynnwys dwy ran allweddol:

Creu amgylcheddau cadarnhaol sy'n dilysu

Strategaethau ymarferol i helpu gweithwyr proffesiynol i greu mannau croesawgar a chynhwysol lle mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol a niwroamrywiaeth yn teimlo'n ddiogel, wedi'u derbyn, eu clywed a'u cefnogi.

Pontio'r bwlch rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol

Dulliau o wella arferion cadarnhaol, meithrin ymddiriedaeth a chefnogi gwaith partneriaeth effeithiol rhwng teuluoedd, ysgolion a gwasanaethau. Bydd hyn yn helpu i wella'r gefnogaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol/niwroamrywiaeth.

Sut y darperir yr hyfforddiant

Mae rhieni ym mhob ardal yn rhoi o'u hamser yn wirfoddol i ddarparu'r hyfforddiant hwn.

Gellir cynnal y sesiwn hyfforddi rhwng 10.00am ac 1.00pm.

Mae'r hyfforddiant yn RHAD AC AM DDIM, ond mae angen bwcio er mwyn sicrhau bod ystafell a gliniadur gyda thaflunydd ar gael. Byddwn yn darparu'r adnoddau a'r hyfforddwyr.

Hyfforddi rhieni yn eich ardal

Os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi rhieni yn eich ardal, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen hon, a gallwn drafod y model 'hyfforddi'r hyfforddwr'.

Derbyn/cynnal yr hyfforddiant

Os hoffech wybod mwy am yr hyfforddiant neu os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal sesiwn hyfforddi, llenwch y ffurflen hon neu sganiwch y cod QR isod.​​​​​​​

 

Celebrating difference - professionals reg form.png