Ar gyfer ysgolion, lleoliadau ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Ar hyn o bryd, mae 8 plentyn mewn dosbarth o 30 yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae hyn yn effeithio ar eu bywydau beunyddiol, ar eu haddysg ac ar eu cyfleoedd bywyd i’r dyfodol.
Mae lleoliadau ysgol a’r costau sy’n gysylltiedig â’r diwrnod ysgol yn gallu achosi problemau i lawer o ddysgwyr a’u teuluoedd.
Mae’r adnoddau canlynol, sydd ar gael am ddim, yn cynnig camau ac atebion ymarferol ar gyfer dull gweithredu ysgol gyfan a fydd yn helpu i ddileu rhwystrau a ‘chost’ dysgu yn eich ysgol neu eich leoliad trwy eich helpu i ystyried a chyflwyno newid gan ddefnyddio’r Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion a’r pecyn cymorth cysylltiedig.
Datblygwyd yr adnoddau hyn yn wreiddiol fel rhan o’r prosiect Pris Tlodi Disgyblion/rhaglen Mynd i’r Afael ag Effaith Tlodi ar Addysg, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u hymrwymiad i fynd i’r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant a gwella iechyd meddwl, llesiant emosiynol a chyrhaeddiad pob plentyn yng Nghymru. Cewch ddarllen rhagor am y prosiect hwn yma.
Mae’r rhestr gynhwysfawr o adnoddau yn cynnwys:
‘Mae [yr adnoddau] wedi newid diwylliant yr ysgol gyfan fel bod tlodi ac effaith tlodi yn parhau i fod yn ffocws i ni i gyd.’
‘Bydd yn cael effaith fawr ar eich disgyblion a’ch teuluoedd.’