Mae Medr a Plant yng Nghymru wedi lansio cyfres newydd o adnoddau dwyieithog wedi’u cynllunio i gefnogi’r chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol i roi Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr ar waith.
Wedi'u datblygu trwy bartneriaeth rhwng Medr a Plant yng Nghymru, cynhyrchwyd yr adnoddau ar y cyd â dysgwyr chweched dosbarth ledled Cymru, gan sicrhau bod eu profiadau, eu blaenoriaethau a'u syniadau yn cael eu hadlewyrchu drwy’r deunyddiau terfynol i gyd.
Mae'r gyfres yn cynnwys adnoddau pwrpasol ar gyfer:
Nod yr adnoddau yw cynyddu dealltwriaeth o'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a chefnogi’r chweched dosbarth mewn ysgolion i greu cyfleoedd ystyrlon i ddysgwyr ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu haddysg a'u profiad dysgu ehangach.
Fel rhan o ymrwymiad Medr i gryfhau ymgysylltiad â dysgwyr ar draws addysg drydyddol, bu Plant yng Nghymru yn gweithio'n uniongyrchol gyda dysgwyr Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 o sampl o ysgolion ledled Cymru. Drwy raglen o weithdai, trafodaethau a gweithgareddau cyd-gynhyrchu, archwiliodd dysgwyr beth yw cyfranogiad ystyrlon yn ymarferol, cawsant rannu eu profiadau o lais ac ymgysylltiad dysgwyr yn eu hysgolion, a helpu i lunio cynnwys a dyluniad yr adnoddau.
Meddai Hannah Reilly, Uwch Reolwr Ymgysylltu â Dysgwyr Medr:
"Mae'r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn rhoi dysgwyr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ac yn cefnogi diwylliant lle gall dysgwyr gael dylanwad gwirioneddol. Mae'r adnoddau hyn yn dangos gwerth gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc i ddatblygu canllawiau ymarferol sy'n adlewyrchu eu profiadau a'u dyheadau.
Rydym yn ddiolchgar i'r dysgwyr, ysgolion a Plant yng Nghymru am eu cyfraniad at y gwaith pwysig hwn ac edrychwn ymlaen at weld yr adnoddau'n cefnogi gweithredu’r Cod ledled Cymru."
Ychwanegodd Kate Thomas, Rheolwr Partneriaethau a Phrosiectau, Plant yng Nghymru:
“Mae gweithio ochr yn ochr â dysgwyr chweched dosbarth a Medr ar y prosiect hwn wedi bod yn hynod werth chweil. Rydym wedi cyd-gynhyrchu cyfres o adnoddau sy'n rhoi ymgysylltu â dysgwyr galon y gwaith. Mae'r cynnwys wedi'i lunio gan leisiau, profiadau a mewnwelediadau pobl ifanc, gan eu cydnabod fel yr arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain.
Drwy roi llais y dysgwr wrth wraidd y broses, bydd yr adnoddau’n helpu i sicrhau bod Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr yn cael ei ddeall a’i weithredu, a bod dysgwyr mewn gwell sefyllfa i gael eu lleisiau wedi’u clywed a chwarae rhan weithredol wrth lunio gwneud penderfyniadau o fewn eu lleoliadau addysgol.”
Mae'r adnoddau bellach ar gael i gefnogi ysgolion wrth iddynt roi’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr ar waith a pharhau i gryfhau llais y dysgwr yn eu lleoliadau.