Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Dysgu | Cysylltu | Dylanwadu
Mae Plant yng Nghymru yn darparu gwybodaeth am swyddi gwag sydd ar gael yn y sector plant yng Nghymru. Mae’r swyddi gwag ar y dudalen yma yn cael eu harddangos yn yr iaith a ddefnyddiwyd i’w cyflwyno i Plant yng Nghymru.
Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN) yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd. Eleni yw ein seithfed flwyddyn.
Mae canfyddiadau’r arolygon hyn yn ein helpu i amlygu’r problemau presennol a deall mwy amdanyn nhw ac am effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru.
Mae Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd 2023 bellach ar gau i gyflwyniadau.
Diolch i bawb sydd wedi ymateb, rydym wir yn gwerthfawrogi hynny.
Bydd y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cael ei chasglu dros y misoedd nesaf gyda'r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2023.
Byddwn hefyd yn defnyddio'r canfyddiadau o'r ddau arolwg i lywio ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar dlodi plant.