Hyd yn hyn y chwarter hwn, mae Plant yng Nghymru wedi paratoi a chyflwyno 9 o ymatebion i ymgynghoriadau, sy'n cynnwys ymatebion i geisiadau amrywiol Bwyllgorau'r Senedd i lywio eu rhaglenni gwaith sydd ar y gweill, a gwaith craffu'r Pwyllgor Cyllid cyn y Gyllideb Ddrafft. Gan adeiladu ar ein blaenoriaethau cyn yr etholiad, cyflwynwyd 3 ymateb i'r Pwyllgor Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a baratowyd gan ein gweithgorau proffesiynol, Grŵp Gweithredu'r Blynyddoedd Cynnar a Chynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector, a 2 ymateb i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol, gan gynnwys gan ein Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru. Yn ogystal, nododd ein prif ymatebion fod mynd i'r afael â thlodi plant, gwella iechyd meddwl plant, cefnogaeth gynnar i rieni/gofalwyr, diogelu, gofal ymylol a chefnogaeth i blant sydd wedi bod mewn gofal yn rhai o'r blaenoriaethau allweddol. Ar draws ein cyflwyniadau, fe wnaethom hefyd alw am fuddsoddiad cynaliadwy mewn gwasanaethau i blant, gan gynnwys trydydd sector y maes plant; mwy o ffocws ar ymyrraeth gynnar ac atal; camau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, addysg ac amgylcheddol, a'r angen i ymgorffori CCUHP yn llawn.
Mae ein hymatebion ar gael ar wefannau'r Pwyllgorau perthnasol – Pwyllgorau
Rydym wrthi'n paratoi ymateb i lywio Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Canser, a ddisgwylir ym mis Chwefror 2027, gan dynnu sylw at yr angen am ffocws penodol ar fabanod, plant a phobl ifanc; ystyriaeth o'r effaith ar iechyd meddwl ac addysg plant yn ystod ac ar ôl triniaeth, a'r angen i wella diagnosis cynnar, cefnogi'r gweithlu a mwy o gymorth i deuluoedd sydd â chostau ychwanegol. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â'n haelodau mewn ymateb i'r galw am dystiolaeth i lywio Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon yn y dyfodol, a drafftio canllawiau i helpu ysgolion i ddatblygu eu polisi ffôn symudol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma – Ymgynghoriadau | LLYW.CYMRU