Ydych chi wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc?
Ydych chi'n angerddol dros gefnogi plant a phobl ifanc i gael llais a chymryd rhan?
Mae Plant yng Nghymru yn chwilio am weithwyr proffesiynol profiadol i gefnogi darpariaeth gwaith cyfranogiad a hawliau plant, yn bennaf trwy ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a'r sefydliadau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu cefnogi.
Penodi
Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol cymwys a phrofiadol i gefnogi gwaith Cymru Ifanc. Os ydych chi'n gallu dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfranogiad; os oes gennych chi brofiad priodol o weithio gyda phlant a phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol ac ymgysylltu â nhw, yna hoffem glywed gennych chi.
Bydd ceisiadau yn aros ar agor yn ystod 2026