Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Dysgu | Cysylltu | Dylanwadu
Mae Plant yng Nghymru yn darparu gwybodaeth am swyddi gwag sydd ar gael yn y sector plant yng Nghymru. Mae’r swyddi gwag ar y dudalen yma yn cael eu harddangos yn yr iaith a ddefnyddiwyd i’w cyflwyno i Plant yng Nghymru.
Datblygu polisi ffonau symudol - Cwblhewch yma
Mae Plant yng Nghymru yn casglu barn a phrofiadau aelodau i lunio ein hymateb i'r ymgynghoriad ar ddogfen Datblygu polisi ffonau symudol: canllawiau drafft i ysgolion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sut gall ysgolion ddatblygu polisïau teg ac ymarferol sy'n cefnogi dysgu, lles a diogelwch plant, a pha gefnogaeth sydd ei hangen i roi'r polisïau hyn ar waith.
Nid oes angen i chi ateb pob un o'r chwe chwestiwn, dim ond y rhai lle mae gennych rywbeth i'w ddweud wrthym. Gofynnwn i ymatebion ein cyrraedd erbyn dydd Mawrth 23 Tachwedd 2026.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru yma – Datblygu polisi ffonau symudol: canllawiau drafft i ysgolion | LLYW. CYMRU. Os hoffech ymateb ar wahân, gallwch wneud hynny drwy'r un ddolen uchod.