Gweledigaeth ar gyfer diwylliant a chwaraeon - Cwblhewch yma

Mae Plant yng Nghymru yn gwahodd ein haelodau i lywio ein hymateb i Alwad am Dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda datblygiad Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd i Gymru. 

Gwyddom fod mynediad at ddiwylliant neu chwaraeon yn cynnig llawer o fanteision ac yn gwella canlyniadau iechyd, cymdeithasol, addysgol a datblygiadol cynnar, ond mae llawer o fabanod, plant a phobl ifanc yn parhau i wynebu rhwystrau a heriau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan. 

Mae Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn nodi bod gan bob plentyn hawl i chwarae a gweithgareddau hamdden, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau, megis chwaraeon, celfyddydau a chyfleoedd diwylliannol. Mae'n ofynnol i lywodraethau hyrwyddo'r hawl hon a darparu cyfleoedd priodol ar gael iddynt gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. 

Rydym yn gwahodd ein haelodau i ddweud wrthym sut y gellir gwella mynediad at ddiwylliant neu chwaraeon yng Nghymru, a pha gamau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd i helpu plant i ymgysylltu a chymryd rhan a chael cyfle cyfartal i gysylltu, dysgu, datblygu, a mwynhau. 

Nid oes angen i chi ateb pob un o'r chwe chwestiwn. Dylid ateb y rhai lle mae gennych rywbeth i'w ddweud wrthym yn unig. Gofynnwn i ymatebion ein cyrraedd erbyn dydd Iau 10 Rhagfyr 2026. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru yma - Gweledigaeth ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru: galwad am dystiolaeth | LLYW.CYMRU.  Os hoffech ymateb ar wahân fel plentyn, unigolyn ifanc, rhiant neu aelod o'r teulu, gallwch wneud hynny drwy'r un ddolen uchod.