Tlodi Plant

Mae Plant yng Nghymru yn parhau i weithio i atal a lleihau lefelau tlodi plant, a lliniaru’r effaith ar fabanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Mae Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd bellach ar agor

Cymerwch 15 munud i gwblhau'r arolwg.

Mae gennym 3 arolwg: 1 ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol, 1 ar gyfer pobl ifanc (12 – 25 oed) ac 1 ar gyfer plant (7 – 11 oed).

Bydd pob arolwg yn cau ar 22 Hydref 2026. ​​

 

Arolwg ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ac Ymarferwyr

Arolwg ar gyfer Pobl Ifanc

Arolwg ar gyfer Plant



Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd

Gweld Arolygon Blynyddol ar Dlodi Plant a Theuluoedd, a gynhelir mewn partneriaeth â Rhwydwaith Diweddu Tlodi Plant Cymru (ECPN).

Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant

Clymblaid o sefydliadau sy’n canolbwyntio ar ddileu tlodi plant yng Nghymru, wedi’i chydlynu a’i rheoli gan Plant yng Nghymru.
 

Cymorth Ariannol

Gellir dod o hyd i gyngor a gwybodaeth am gymorth sydd ar gael i unrhyw un sy’n profi anawsterau ariannol ac mewn dyled yma.
 

Gwisg Ysgol

Nod yw cynorthwyo ysgolion i ailystyried eu polisïau a’u harferion gwisg ysgol drwy fynd i’r afael â materion fforddiadwyedd ac amlygu’r effaith y mae’r polisïau hyn yn ei chael ar ddisgyblion a’u teuluoedd.
 

Adnoddau Pris Tlodi Disgyblion

Mae’r adnoddau am ddim canlynol yn cynnig camau ymarferol ac atebion ar gyfer dull ysgol gyfan i helpu i ddileu rhwystrau a ‘chost’ dysgu yn eich ysgol neu leoliad.

 

Pris Tlodi Disgyblion

Cost Tlodi Disgyblion: Mabwysiadu dull ysgol gyfan i wella lles plant o aelwydydd incwm isel (2019 - 2024).