Plant yng Nghymru sy’n darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer Grŵp Trawsbleidiol ar Fabanod, Plant a Phobl Ifanc.
Mae’r grŵp hwn yn galluogi Aelodau o’r Senedd i glywed gan amrywiaeth o arbenigwyr yn y sector plant, a thrafod y materion allweddol sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Cadeirydd y grŵp yw Jane Dodd, Aelod o’r Senedd.