CyswlltwchAbi Bryant – Swyddog Datblygu abi.bryant@childreninwales.org.uk General enquiries Pupilpoverty@childreninwales.org.uk Cofrestrwch i'r rhaglen Mynd i'r Afael ag Effaith Tlodi ar Rhaglen Addysg: YMA |
Ar hyn o bryd yng Nghymru mae 8 o blant mewn dosbarth o 30 yn byw mewn tlodi. Mae hyn yn effeithio ar eu bywydau bob dydd, eu haddysg a chyfleoedd bywyd yn y dyfodol.
Mae'r Rhaglen Mynd i'r Afael ag Effaith Tlodi ar Addysg, a gynhelir gan Plant yng Nghymru, yn cynnig camau ymarferol ac atebion i chi ar gyfer dull ysgol gyfan i helpu i gael gwared ar rwystrau a 'chost' dysgu yn eich ysgol.
Ariennir y Rhaglen gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'u hymrwymiad i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant ac i wella iechyd meddwl, lles emosiynol a chyrhaeddiad pob plentyn yng Nghymru.
Gall lleoliadau ysgol a’r costau sy’n gysylltiedig â’r diwrnod ysgol fod yn broblematig i lawer o ddysgwyr a’u teuluoedd. Nod y rhaglen yw cefnogi ysgolion a lleoliadau addysgol ledled Cymru i ystyried a gweithredu newid gan ddefnyddio’r Canllawiau Prisiau Tlodi Disgyblion. Mae yna hefyd Ganllaw i Lywodraethwyr ar gael i helpu Llywodraethwyr Ysgol i gefnogi eu hysgolion i wneud i newid ddigwydd.
The Price of Pupil Poverty | GOV.WALES
Rydym wedi gweithio gyda nifer o ysgolion ledled Cymru i weithredu'r canllawiau gyda llawer o lwyddiant.
“Rydyn ni wedi gweld y broses yn hawdd ei dilyn ac wedi cael cefnogaeth drwyddi. Cafwyd adborth cadarnhaol gan rieni ynghylch y newidiadau rydym wedi'u gwneud ers cymryd rhan ac rydym yn parhau i weithio ar gamau gweithredu sydd wedi codi yn dilyn gwerthuso'r cynllun gweithredu” Ysgol Gynradd Liswerry
“Fel ysgol, roeddwn i'n meddwl ein bod ni'n cefnogi pob dysgwr, ond trwy werthuso ymarfer fe sylweddolon ni fod cymaint mwy y gallen ni ei wneud i helpu ein teuluoedd ac yn y pen draw cefnogi ein disgyblion i fod mewn lle sy'n barod i ddysgu” Ysgol Gynradd Penfro
Er mwyn cynyddu cyfranogiad mwy o ysgolion ledled Cymru, mae gan Plant yng Nghymru y cynnig canlynol i'ch galluogi i fynd i'r afael ag effaith tlodi disgyblion yn eich lleoliad ysgol: